Newyddion

Talyllyn Rail- Go North Wales Awards

Traveline Cymru yn canmol “gwaith arloesol” rheilffordd arobryn

05 Rhagfyr 2018

Mae Traveline Cymru – y cwmni sy’n darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus – yn dathlu “gwaith arloesol” Rheilffordd Tal-y-llyn, sef y rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei chadw a’i hadnewyddu, wrth iddi ennill gwobr fawr a noddwyd gan y sefydliad.

Mae gwobr farchnata Gwobrau Twristiaeth Go North Wales, a gefnogwyd gan Traveline Cymru, yn cydnabod yn benodol arloesedd mewn marchnata ym maes twristiaeth sy’n dangos dealltwriaeth wirioneddol o’r farchnad ac o anghenion cwsmeriaid.

Roedd y beirniaid yn canmol yr ymgyrch greadigol am wneud defnydd gwych o adnoddau digidol, a oedd yn cynnwys llunio gwefan addas i ddyfeisiau symudol, a chreu cyfres o fideos gan ddefnyddio drôn a ‘chamera rhaw’ unigryw.

Roedd y sylwadau a gafwyd gan y beirniaid yn cydnabod y defnydd arloesol o dechnoleg: “Roedd yr enillydd yn sicr wedi dangos creadigrwydd yn rhan o’i dechnegau marchnata. Heb os, mae’r ymgyrch farchnata hon wedi codi stêm, ac mae’n sicr ar y llwybr cywir!”

Meddai Cadeirydd Cwmni Rheilffordd Tal-y-llyn, David Ventry:

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod yn ceisio gwella’r modd yr ydym yn marchnata’r rheilffordd, ac roedd penodi swyddog marchnata llawn-amser, Dan King, yn gam allweddol yn y broses honno.

“Mae Dan, ynghyd ag aelodau eraill o’r tîm, wedi dod â syniadau ffres i’n gwaith marchnata, ac mae’r canlyniadau o ran y cynnydd yn nifer y teithwyr eleni’n amlwg i bawb.

“Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn am y gwaith gwych a wnaed gan y tîm.”

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru:

“Rydym wrth ein bodd o fod wedi cefnogi’r wobr hon, ac mae gweld enillydd mor deilwng yn goron ar y cyfan.

“Mae gweld gwaith arloesol a chreadigol yn cael ei wneud i hybu gwasanaethau ardderchog sefydliadau trafnidiaeth yng Nghymru bob amser yn ein cyffroi, ac mae ymgyrch farchnata lwyddiannus Rheilffordd Tal-y-llyn yn enghraifft wych o frwdfrydedd y cwmni at y diwydiant a’i ymrwymiad i’w gwsmeriaid.

“Er bod gwaith gwych yn cael ei wneud ledled Cymru, rydym bob amser yn falch o weld llwyddiant yn y gogledd, gan fod cynifer o’n tîm wedi’u lleol yno yn ein canolfan alwadau ddwyieithog. Rydym yn falch iawn o gael bod ynghlwm â’r wobr eleni, ac rydym yn llongyfarch Rheilffordd Tal-y-llyn ar ei llwyddiant haeddiannol.”

Mae Traveline Cymru yn gwmni dielw sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru trwy wefan ddwyieithog, canolfan alwadau a chyfres o wasanaethau i’r sawl sy’n defnyddio ffôn symudol.

 

 

-DIWEDD-

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg, dylid cysylltu â Shelley Phillips o jamjar ar 01446 771265/shelley@jamjar.agency

 

Delwedd: Rheilffordd Tal-y-llyn

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon