Newyddion

Winter Travel Safety

Cyngor ynghylch cadw’n ddiogel wrth deithio yng Nghymru y Nadolig hwn

13 Rhagfyr 2018

Wrth i’r Nadolig nesáu ac wrth i filoedd o bobl ruthro o amgylch i ddathlu’r ŵyl mae Traveline Cymru, sef y gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, yn cynghori pobl i gofio ambell gyngor syml ynghylch teithio yn ystod y gaeaf, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd hwylus a gwych o deithio yn ystod tymor y Nadolig, ond caiff cwsmeriaid eu cynghori i beidio â pheryglu eu diogelwch eu hunain, yn enwedig os ydynt yn bwriadu cael ambell ddiod.

Wrth i filoedd o bobl ruthro a theithio ar draws trefi a dinasoedd mae’n hawdd anghofio, ynghanol yr holl brysurdeb, am y camau sylfaenol y dylid eu cymryd i gadw’n ddiogel.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Mae tywydd y gaeaf ar ein gwarthaf ac mae llawer o’n cwsmeriaid yn teithio yn y tywyllwch, boed er mwyn mynd i’r gwaith yn y bore, mynd adref ar ôl diwrnod hir o siopa Nadolig, neu fynd adref yn hwyr yn y nos ar ôl mwynhau ambell wydraid o win y gaeaf.

“Mae’n hawdd mynd i hwyl yr ŵyl ac anghofio am y peryglon sy’n gysylltiedig â theithio ar eich pen eich hun adeg y Nadolig. Mae’r diwrnodau byr ac oer, a nosweithiau hwyr anochel yr ŵyl, yn golygu ei bod yn bwysicach fyth i ni gofio’r camau sylfaenol y dylem eu cymryd.

“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd wych o deithio, cwrdd â phobl newydd a chael hwyl, ond gall ambell air o gyngor wneud llawer i helpu pobl i deimlo’n fwy diogel ac yn fwy tawel eu meddwl wrth deithio yn y tywyllwch. Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein cwsmeriaid yn teimlo’n gyffyrddus, drwy rannu ein prif gynghorion â nhw.”

 

Cynghorion Traveline Cymru ynghylch teithio yn ystod y gaeaf:

 

Cynlluniwch ymlaen llaw a pharatowch eich taith

Yn ystod mis Rhagfyr, bydd y strydoedd yn fwy prysur a bydd arosfannau bysiau a phlatfformau mewn gorsafoedd rheilffyrdd yn llawn. Y peth olaf y byddwch am ei wneud, wrth gario’r holl fagiau siopa neu ar ôl yfed tipyn o alcohol neu dreulio diwrnod hir yn y swyddfa, fydd ceisio dod o hyd i’ch ffôn er mwyn cael gafael ar amserlen ddiweddaraf eich bws neu’ch trên.

Defnyddiwch wasanaeth cynllunio taith, megis Traveline Cymru, i sicrhau eich bod yn gwybod yr holl fanylion am arosfannau, amseroedd a llwybrau ymlaen llaw. Bydd cynllunio ymlaen llaw yn rhoi’r tawelwch meddwl y mae arnoch ei angen er mwyn gallu mynd o A i B yn ddibryder.

Sicrhewch eich bod yn cadw golwg ar y sianelau perthnasol ar gyfryngau cymdeithasol fel y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio tra byddwch yn mynd o le i le.

 

Sicrhewch fod gennych ddigon o arian mân

Mae llawer ohonom yn euog o fynd o gwmpas heb arian parod, gan ddibynnu ar ein cardiau debyd a’n ffonau clyfar i dalu am bethau. Efallai fod cario arian mân o gwmpas yn ymddangos yn rhywbeth braidd yn hen ffasiwn i’w wneud, ond dylech sicrhau bod gennych ddigon o newid i dalu am eich tocynnau fel na fyddwch mewn cyfyng-gyngor yn y tywyllwch neu’n chwilio am y peiriant arian agosaf yn hwyr yn y nos.

 

Cadwch bethau gwerthfawr allan o’r golwg

Rydym i gyd yn euog o ddefnyddio ein ffonau clyfar, ein gliniaduron a’n llechi i’n diddori ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond sicrhewch eich bod yn cadw eich eiddo gwerthfawr yn saff yn eich bag (gyda phob sip ar gau) pan fyddwch wedi mynd ar y bws neu’r trên.

 

Cael cwmni rhywun arall

Nid yw teithio adref gyda ffrindiau neu berthnasau bob amser yn ymarferol os ydych yn byw mewn lleoedd gwahanol i’ch gilydd, ond ceisiwch o leiaf deithio i orsafoedd ac arosfannau gyda’ch gilydd.

Bydd llawer o ddarparwyr yn darparu gwasanaethau’n hwyr yn y nos yn ystod yr ŵyl, ond os byddwch wedi colli’r bws neu’r trên olaf dylech osgoi cerdded adref ar eich pen eich hun bob amser.

Daliwch dacsi cofrestredig neu ffoniwch ffrind neu aelod o’r teulu i ofyn iddynt ddod i’ch casglu; gallwch ddiolch iddynt ag ambell anrheg Nadolig ychwanegol!

 

Dilynwch eich greddf

Mae’n gyngor cyfarwydd iawn, ond os ydych yn teimlo’n anghyffyrddus ar fws neu drên dilynwch eich greddf a thynnwch sylw’r gyrrwr at unrhyw ymddygiad amheus.

 

Peidiwch â dilyn llwybrau byr

Ar ôl dod oddi ar y bws neu’r trên, sicrhewch eich bod yn cerdded adref ar hyd strydoedd sydd wedi’u goleuo’n dda. Gallai dilyn llwybr byr arbed pum munud i chi, ond bydd stryd brysur sydd wedi’i goleuo’n dda yn rhoi tawelwch meddwl i chi. Dyw dilyn llwybr byr ddim yn werth y risg, felly gwisgwch yn gynnes a threuliwch ychydig funudau ychwanegol yn cerdded adref.

 

Sicrhewch fod eich allweddi gennych wrth law

Rydym i gyd yn gwybod sut deimlad yw twrio mewn bagiau a phocedi am allweddi’r tŷ, ond mae gwneud hynny yn y tywyllwch yn hwyr yn y nos yn golygu eich bod yn agored iawn i niwed.

Rhowch eich allweddi mewn poced benodol yn eich bag, a chadwch nhw ar linyn fel ei bod yn haws i chi ddod o hyd iddynt heb orfod gwagio eich bag.

 

Lawrlwythwch unrhyw apiau defnyddiol

Bydd cynlluniau’n newid weithiau, a byddwch am addasu eich trefniadau teithio’n unol â hynny. Sicrhewch fod yr apiau y mae arnoch eu hangen gennych wrth law fel y gallwch gael manylion am amserlenni, problemau teithio ac unrhyw oedi. Gallwch lawrlwytho ap dwyieithog Traveline Cymru hefyd, sy’n dangos ble mae arosfannau bysiau, sy’n eich helpu i baratoi eich taith drwy roi gwybodaeth am amseroedd a phroblemau teithio, ac sy’n cadw eich hoff leoliadau.

 

Ac yn olaf…

Weithiau bydd ein ffôn yn methu â rhoi data i ni, a bydd yn rhaid i ni ffonio rhywun er mwyn dod o hyd i ffordd adref. Sicrhewch fod eich ffôn symudol yn cynnwys manylion cyswllt defnyddiol sydd wedi’u diweddaru rhag ofn y byddwch yn colli’r trên olaf; manylion cyswllt cwmni tacsis lleol dibynadwy; a rhif Rhadffôn Traveline Cymru fel y gallwch gael unrhyw fanylion munud olaf y mae arnoch eu hangen. Sicrhewch eich bod yn cadw 0800 464 0000, sy’n wasanaeth rhad ac am ddim, a fydd yn eich galluogi i gysylltu ag un o asiantiaid dwyieithog canolfan gyswllt y cwmni gydag unrhyw ymholiadau.

 

Mae Traveline Cymru yn gwmni dielw sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer gwasanaethau bws a thrên yng Nghymru trwy wefan ddwyieithog, rhif Rhadffôn a chyfres o wasanaethau i’r sawl sy’n defnyddio ffôn symudol.

 

 

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg, dylid cysylltu â Shelley@jamjar.agency / 01446 771265

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon