Newyddion

Severn Bridge

Diddymu Tollau Pontydd Hafren – Beth y mae angen i fi ei wybod?

14 Rhagfyr 2018

Fel y cyhoeddwyd yn gynharach eleni, bydd tollau Pontydd Hafren yn cael eu diddymu o 17 Rhagfyr ymlaen. Mae hynny’n golygu y bydd y pontydd ar gau am gyfnodau dros y Nadolig ac i mewn i’r Flwyddyn Newydd wrth i waith ddechrau ar symud y bythau tollau.

 

Beth fydd yn digwydd?

Drwy gydol mis Rhagfyr, bydd lonydd yn cael eu cau a bydd gwaith yn cael ei wneud ar y ffordd. Mae’n debygol y bydd hynny’n achosi problemau teithio, felly dylech adael digon o amser ar gyfer eich taith a disgwyl rhywfaint o oedi.

 

Dydd Gwener 14 Rhagfyr

Bydd y 3 lôn ganol wrth y bythau tollau’n cael eu cau ar Bont Tywysog Cymru o 9am ymlaen ond bydd pob lôn ar agor fel arfer ar Bont yr M48. O 8pm ymlaen, bydd pob un o’r lonydd i gyfeiriad y gorllewin ar Bont Tywysog Cymru ar gau a bydd gyrwyr yn cael eu dargyfeirio i Bont yr M48. 

 

Dydd Sadwrn 15 Rhagfyr a dydd Sul 16 Rhagfyr

Bydd y 3 lôn ganol wrth y bythau tollau ar gau rhwng 6am ac 8pm ddydd Sadwrn a rhwng 6am a 7pm ddydd Sul. Bydd y bont ar gau’n gyfan gwbl i yrwyr sy’n teithio i gyfeiriad y gorllewin yn ystod y nos, a byddant yn cael eu dargyfeirio i Bont yr M48.

 

Dydd Llun 17 Rhagfyr

Bydd y tollau’n cael eu diddymu ar y dyddiad hwn.

Bydd Pont Tywysog Cymru yn ailagor gyda system sy’n cynnwys 3 lôn ganol lle bydd y traffig yn gallu llifo’n rhydd. Bydd y lonydd hyn yn gul, felly bydd cyfyngiad cyflymder o 50 milltir yr awr ar waith er mwyn diogelu gyrwyr.

Bydd gwaith yn dechrau ar Bont yr M48 wedyn pan fydd pob un o’r lonydd i gyfeiriad y gorllewin yn cael eu cau er mwyn symud y bythau tollau. Disgwylir i’r lonydd ailagor fore dydd Mercher 19 Rhagfyr pan fydd system newydd ar waith, sy’n cynnwys 2 lôn lle bydd y traffig yn gallu llifo’n rhydd. Bydd y lonydd hyn yn gul hefyd, a bydd cyfyngiad cyflymder o 50 milltir yr awr ar waith.

 

Bydd y gwaith sy’n weddill yn cael ei gyflawni ddechrau 2019 er mwyn gosod system draffordd normal 3 lôn ar y ddwy bont, lle bydd y cyfyngiad cyflymder arferol o 70 milltir yr awr ar waith.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon