Newyddion

https://www.cardiffbus.com/

Canolfan Deithio Newydd ar gyfer Bws Caerdydd

05 Mawrth 2019

O ddydd Llun 4 Mawrth ymlaen, bydd canolfan deithio Bws Caerdydd i’w gweld yn hen swyddfa Ticketline yn 47 Heol y Porth. 

Gall cwsmeriaid brynu tocynnau, cofrestru ar gyfer cardiau iff, casglu canllawiau ynghylch amserlenni, a siarad ag aelod o dîm gwasanaethau i gwsmeriaid Bws Caerdydd yng nghanolfan newydd y cwmni yn y ddinas. 

Bydd Bws Caerdydd yn gorffen masnachu yn y Llyfrgell Ganolog ddydd Sadwrn 2 Mawrth, ond bydd modd o hyd i gwsmeriaid gasglu gwybodaeth am amserlenni o stondin daflenni a fydd ar gael yn y Llyfrgell.

Dyma ein horiau agor yn Heol y Porth:

Dydd Llun i Ddydd Gwener – 10am tan 6pm
Dydd Sadwrn – 10am tan 4pm
Dydd Sul – Ar gau

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon