Newyddion

http://www.holdermathias.com/project/cardiff-interchange/?cat=10

Gwaith yn dechrau ar orsaf fysiau newydd yng nghanol Caerdydd ddiwedd mis Mawrth

11 Mawrth 2019

  • Yn nes ymlaen yn y mis, disgwylir y bydd gwaith yn dechrau ar orsaf fysiau newydd yng nghanol Caerdydd
  • Mae’n fenter ar y cyd rhwng y cwmni datblygu eiddo Rightacres, Llywodraeth Cymru a’r sefydliad gwasanaethau ariannol L&G
  • Bydd gan yr orsaf fysiau 14 o arosfannau ar lefel y ddaear ynghyd â 5000 troedfedd sgwâr o le manwerthu.

Pan fydd cytundeb terfynol wedi’i gadarnhau rhwng y sefydliadau dan sylw, disgwylir y bydd y gwaith o adeiladu’r orsaf fysiau newydd yn dechrau’n syth. Bydd yr orsaf fysiau o flaen Gorsaf Reilffordd Caerdydd Canolog.

Cafodd gorsaf fysiau ganolog flaenorol Caerdydd ei chau yn 2015. Diben hynny oedd hwyluso’r cam datblygu nesaf yn y Sgwâr Canolog, a oedd yn cynnwys cynllun swyddfeydd y Sgwâr Canolog a phencadlys newydd BBC Cymru.

Bydd yr orsaf fysiau a’r ardal gyfagos yn cynnwys:

  • 14 o arosfannau ar lefel y ddaear a thua 5,000 troedfedd sgwâr o le manwerthu.
  • Tua 87,000 troedfedd sgwâr o le newydd gradd A i swyddfeydd, uwchben yr orsaf fysiau.
  • 300 o fflatiau preifat i’w rhentu.
  • Maes parcio newydd gyda digon o le i 250 o gerbydau – bydd tua 175 ohonynt ar gyfer staff pencadlys newydd BBC Cymru.

Bydd yr orsaf fysiau’n cael ei gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru a gymerodd y gwasanaethau rheilffyrdd drosodd oddi wrth Trenau Arriva Cymru ym mis Hydref 2018. Disgwylir y bydd y cynllun yn cymryd 2-2½ flynedd i’w gwblhau, ond gallai’r orsaf fysiau fod yn weithredol yn gynharach na hynny. 

 

Ffynhonnell y wybodaeth: WalesOnline

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon