Newyddion

Stagecoach South Wales

Stagecoach yn Ne Cymru yn dathlu’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau

13 Mawrth 2019

Mae pump o brentisiaid Stagecoach sy’n gweithio gyda Stagecoach yn Ne Cymru wedi defnyddio’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau i annog mwy o bobl i ymuno â’r diwydiant bysiau drwy gynllun prentisiaethau’r cwmni.

Mae Will Harnett yn dilyn prentisiaeth fel ffitiwr. Mae yn ei 4edd flwyddyn erbyn hyn ac wedi bod yn gweithio ym mhob depo ledled y de. Mae William eisoes wedi ennill profiad gwerthfawr yn ystod ei gyfnod gyda Stagecoach ac mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddatblygu ei yrfa. Yr hyn sydd wedi rhoi’r mwynhad mwyaf iddo yn ystod ei gyfnod gyda Stagecoach yw’r cyfle i weithio ar amryw brosiectau.

Ymunodd Chloe Jones o Gwmbrân â rhaglen brentisiaethau Stagecoach yn 2016. Dechreuodd ymddiddori mewn peirianneg ar ôl bod yn gweithio gyda’i ffrind yn atgyweirio cyrff ceir. Mae wrth ei bodd yn gweithio gyda’r tîm peirianyddol ac mae’n dyheu am fod yn ffitiwr / chwistrellwr rhagorol. Mae Chloe bellach yng nghanol 3edd flwyddyn ei phrentisiaeth fel ffitiwr.

Mae Liam Jamieson yn brentis ‘Trade Up’ sydd yn ei 2il flwyddyn. Mae Chris George a Daniel Barber hefyd yn brentisiaid ‘Trade Up’ sydd yn eu blwyddyn 1af. Maent i gyd yn mwynhau dysgu sgiliau newydd a gweithio yn y depos.

Cafodd rhaglen brentisiaethau Stagecoach ei chyflwyno 13 blynedd yn ôl, gyda’r bwriad penodol o fod yn un o’r rhaglenni mwyaf cynhwysfawr a heriol yn y diwydiant bysiau. Cydnabyddir bod y rhaglen ymhlith y goreuon, ac mae’n ceisio datblygu technegwyr amryddawn a chymwys i weithio ar gerbydau y mae eu technoleg yn datblygu’n gynyddol. Mae’r rhaglen yn ceisio sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan ynddi’n cael y profiad angenrheidiol er mwyn dod yn dechnegwyr cymwys, yn rheolwyr peirianyddol a hyd yn oed yn gyfarwyddwyr i ni yn y dyfodol.

Meddai Peter Henry, Cyfarwyddwr Peirianyddol, Stagecoach yn Ne Cymru: “Mae rhaglen brentisiaethau Stagecoach yn meithrin y sgiliau a’r hyfforddiant y mae eu hangen ar y busnes ar gyfer y genhedlaeth nesaf o staff a fydd yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar gerbydau Stagecoach. Rydym yn mwynhau gweithio gyda’r prentisiaid, ac rydym yn edrych ymlaen at ystyried rhagor o ymgeiswyr yn ystod y rhaglen recriwtio nesaf.” 

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Grŵp Stagecoach drwy ffonio 01738 442111 neu drwy anfon ebost i media@stagecoachgroup.com

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon