Newyddion

Llandudno Junction Railway Station- Transport for Wales

‘Map Mynediad’ rhyngweithiol newydd i’w gwneud yn haws i deithwyr anabl deithio ar drenau

23 Ebrill 2019

  • Gall teithwyr gael gwybod pa orsafoedd sydd â mynedfeydd heb risiau, pa gyfleusterau sydd ar gael a ble mae gorsafoedd hygyrch amgen er mwyn gallu cynllunio wrth deithio o le i le.
  • Mae’r map yn rhan o gynllun hirdymor y diwydiant rheilffyrdd i wella hygyrchedd rheilffyrdd Prydain.
  • Mae hefyd yn dilyn y newyddion y bydd 11 o orsafoedd Trafnidiaeth Cymru yn cael budd o fuddsoddiad gan y rhaglen ‘Access for All’ i sicrhau bod ganddynt fynedfeydd heb risiau.

Mae’r ‘Map Mynediad’ newydd, a lansiwyd yn rhan o raglen y diwydiant rheilffyrdd i wella hygyrchedd rheilffyrdd, yn galluogi teithwyr i gael y wybodaeth ganlynol am orsafoedd ledled Prydain:

  • a oes gan orsafoedd fynedfeydd heb unrhyw risiau o gwbl neu heb risiau’n rhannol
  • pa gyfleusterau sydd ar gael mewn gorsaf, e.e. toiledau hygyrch a chyfleusterau newid
  • ble mae gorsafoedd hygyrch amgen er mwyn gallu cynllunio wrth deithio o le i le.

Bydd y map yn helpu teithwyr i deimlo’n ffyddiog y gallant gyrraedd pen eu taith yn hwylus. Mae’r ‘Map Mynediad’ yn gydnaws â nodweddion hygyrch ar ddyfeisiau iPhone ac Android ac ar ddyfeisiau pen desg, gan gynnwys dyfeisiau i bobl sydd â nam ar eu golwg.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd gwaith datblygu’n dechrau hefyd ar ap ‘Map Mynediad’ er mwyn ei gwneud yn haws fyth i bobl gael gafael ar y wybodaeth hon. Bu’r Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd yn gweithio ar y cyd â chwmnïau trenau a’r Adran Drafnidiaeth i greu’r ‘Map Mynediad’.

Ochr yn ochr â’r map, bydd y diwydiant rheilffyrdd yn uwchraddio ei systemau er mwyn helpu i gyflymu’r broses o drefnu cymorth ar gyfer teithwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Bydd teithwyr yn gallu creu eu proffiliau defnyddiwr eu hunain a threulio llai o amser ar y ffôn yn trefnu cymorth. Bydd ap arloesol i drefnu cymorth ar gael o haf 2020 ymlaen, a fydd yn rhoi mwy o reolaeth ar eu taith i gwsmeriaid.

Mae’r diwydiant rheilffyrdd wedi cyflawni gwerth dros £500 miliwn o welliannau ers 2006, a bydd yn sicrhau bod 73 yn rhagor o orsafoedd yn hygyrch erbyn 2024 ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi’n ddiweddar y bydd £300 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael.

Mae’r gorsafoedd dan sylw’n cynnwys gorsafoedd y Fenni, Caerffili, Llwydlo a Dinbych-y-pysgod ynghyd â saith o orsafoedd eraill yng Nghymru, a fydd yn cael budd o’r buddsoddiad hwn gan y rhaglen ‘Access for All’ i sicrhau bod gan orsafoedd fynedfeydd heb risiau. Bydd gwaith yn y gorsafoedd dan sylw’n cael ei gyflawni yn ystod y 5 mlynedd nesaf.

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i sicrhau nad yw grisiau’n rhwystro pobl ar 99% o’r holl deithiau sydd ar rwydwaith craidd y cwmni yn y Cymoedd.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon