Newyddion

Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru

Traveline Cymru a’i Reolwr Gyfarwyddwr ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau

03 Mai 2019

Mae Traveline Cymru yn “falch dros ben” o fod wedi’i enwebu ar gyfer dwy wobr o fri ym maes busnes, sy’n cydnabod ymgyrchoedd “blaengar” y cwmni a’i gyfarwyddwr ymroddgar.

Mae gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy o wobrau Arts & Business Cymru (Gwobrau A&B Cymru) ac mae ei Reolwr Gyfarwyddwr, Jo Foxall, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru.

Nod Gwobrau A&B Cymru yw cydnabod “creadigrwydd a rhagoriaeth” mewn partneriaethau rhwng byd busnes a’r celfyddydau.

Cafodd y busnes ei enwebu yn y categori ‘Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand’ am ei waith gyda Hijinx. Cafodd y gwneuthurwyr theatr a ffilm “cynhwysol” arobryn eu comisiynu gan Traveline Cymru i greu ffilm hyrwyddo fer ar gyfer ei linell wybodaeth rad ac am ddim, gan gyflogi actorion ag anabledd dysgu.

Cafodd Traveline ei enwebu hefyd yn y categori ‘Celfyddydau a Busnes Bach’ am ei brosiect gyda Hijinx a Focus Wales. Roedd y prosiect, drwy gyfleoedd i wirfoddoli, yn targedu pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth y celfyddydau oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.

Busnes Cymreig yw Traveline Cymru sy’n cyflogi 42 o bobl yng nghanol Caerdydd ac ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd.

Mae cwmnïau o bob maint ac o bob rhan o Gymru yn cystadlu i geisio ennill y gwobrau “o fri” hyn a gyflwynir mewn seremoni sydd i’w chynnal ddydd Iau 11 Gorffennaf yng Nghanolfan y Mileniwm.

Yn ogystal mae Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, wedi’i henwebu ar gyfer un o wobrau Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, yn y categori ‘Cyfarwyddwr Ifanc y Flwyddyn’.

Meddai Jo Foxall: “Ar ôl dechrau gweithio gyda PTI Cymru mewn swydd is, dringais yr ysgol yn raddol cyn cymryd yr awenau ym mis Gorffennaf 2017. Rwyf wedi cyflawni amryw rolau oddi mewn i’r busnes yn y gorffennol, felly mae gen i wybodaeth dechnegol a dealltwriaeth eang o sut y mae pob maes yn gweithredu a pha fath o arweiniad y mae arnynt ei angen.

“Rydym yn falch dros ben o gael ein hystyried ar gyfer y ddwy wobr, ac rydym yn gobeithio y bydd cyrraedd y rhestr fer yn codi proffil Traveline Cymru fel sefydliad sy’n gweithio ar brosiectau arloesol, blaengar a chynhwysol. Rydym yn edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo ac yn croesi ein bysedd y byddwn yn llwyddiannus.”

Meddai Robert Lloyd Griffiths, Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru: “Er gwaetha’r ffaith ein bod mewn cyfnod heriol tu hwnt, ac er gwaethaf yr ansicrwydd sy’n gysylltiedig ag effaith Brexit ar fyd busnes, mae cyfarwyddwyr ledled Cymru yn llwyddo i arwain ac ysbrydoli eu staff gan gyflenwi cynnyrch neu ddarparu gwasanaethau ar yr un pryd sy’n wirioneddol arloesol. Mae calibr y sawl sydd ar y rhestr fer eleni’n drawiadol tu hwnt, ac roedd llunio rhestr fer yn dasg anodd.”

Bydd seremoni wobrwyo Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru, sy’n clodfori “busnesau ac arweinwyr gorau Cymru” ac sy’n cael ei noddi gan Ysgol Busnes Caerdydd, yn cael ei chynnal ddydd Gwener 17 Mai ym Maes Criced Gerddi Sophia.

Meddai’r Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydym yn falch o noddi’r digwyddiad blynyddol hwn i glodfori rhagoriaeth ymhlith busnesau ac arweinwyr yng Nghymru.

“Rydym yn dal i gael ein hysbrydoli gan arloesedd, creadigrwydd ac uchelgais y sawl sy’n cael eu henwebu, ac rydym yn edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo lle bydd yr hyn y maent wedi’i gyflawni – mewn amgylchedd economaidd heriol – yn cael ei gydnabod.

“Er gwaetha’r heriau, mae’r sawl sydd wedi’u henwebu yn adlewyrchu’r cyfraniad o bwys y mae busnesau yng Nghymru yn ei wneud nid yn unig i’r economi ond hefyd i’r gymdeithas, yng Nghymru a’r byd.”

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog. 

 

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Rhian Richards jamjar PR ar 01446 771265 neu rhian@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon