Newyddion

Transport Focus yn cyhoeddi argymhellion er mwyn gwella teithiau bws ar gyfer pobl ifanc

Transport Focus yn cyhoeddi argymhellion er mwyn gwella teithiau bws ar gyfer pobl ifanc

22 Mai 2019

Mae Transport Focus, sef corff annibynnol sy’n gwarchod defnyddwyr trafnidiaeth yn Lloegr, wedi cynnal cyfres o weithdai er mwyn ystyried sut y gall gweithredwyr ei gwneud yn haws i bobl ifanc 16-18 oed ddefnyddio bysiau.

Er bod pobl ifanc yn defnyddio bysiau’n fwy nag unrhyw grŵp arall o bobl, mae’r corff yn nodi mai pobl ifanc sydd leiaf bodlon â gwasanaethau bws. Gallai’r rhesymau am hynny gynnwys hwylustod, hygyrchedd a chost teithio ar fysiau.

Mae Transport Focus wedi cyhoeddi canllaw newydd i arfer gorau. Mae’n ddogfen sy’n cynnwys argymhellion y bwriedir iddynt helpu gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r materion hyn ac ymgysylltu â phobl ifanc 16-18 oed.

Meddai David Sidebottom, Cyfarwyddwr Transport Focus: “Mae pobl ifanc am i ddefnyddio’r bws fod mor syml ac ymatebol ag archebu pizza. Rhaid i weithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol achub ar y cyfle i ddarparu ar gyfer cwsmeriaid y dyfodol.”

Mae’r canllaw i arfer gorau yn adrodd ynghylch pump o weithdai a gynhaliwyd gan Transport Focus yn Birmingham, Colchester, Caerwysg, Rhydychen ac Efrog yn gynharach eleni. Bwriad y gweithdai oedd dysgu beth y mae pobl ifanc am ei gael o’u teithiau a beth arall y maent yn credu y gall gweithredwyr ac awdurdodau lleol ei wneud. Roedd pobl ifanc sy’n defnyddio bysiau, gweithredwyr bysiau, awdurdodau lleol, gwneuthurwyr bysiau ac ymgynghorwyr trafnidiaeth yn bresennol yn y gweithdai.

 

Cafodd tri argymhelliad allweddol eu nodi yn y gweithdai:

  • Tocynnau clyfar – tocynnau rhatach ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed, sy’n hawdd eu prynu a’u deall
  • Ap hollgynhwysol, cenedlaethol ar gyfer teithio ar fysiau – un ffynhonnell ganolog ar gyfer gwybodaeth a thocynnau, a ddarperir gan y diwydiant bysiau ac sy’n ymatebol ac yn hawdd ei defnyddio ac y mae modd cael gafael arni drwy ap a fydd yn haeddu ei le ar ffôn person ifanc
  • Cyfleusterau gwell ar fysiau – cyfleusterau wi-fi a mannau gwefru USB wrth ymyl pob sedd.

 

Cafodd argymhellion pellach eu gwneud hefyd ynghylch beth y gall gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol ei wneud:

  • Rhyngweithio â’r gyrrwr – sy’n cynnwys agwedd y gyrrwr, hyfforddiant gwell ynghylch gofal cwsmer, a dull o brynu tocynnau sydd wedi’i awtomeiddio i ryw raddau
  • Tocynnau a phrisiau – sy’n cynnwys opsiynau talu a thechnoleg, parthau prisiau, gostyngiadau, a phrisiau y mae’n hawdd cael gafael arnynt ar gyfer tocynnau
  • Darparu gwybodaeth – sy’n cynnwys gwybodaeth amser real a phersonoli gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc.

 

Ewch i wefan Route One i gael rhagor o wybodaeth.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Jessamy Chapman drwy Route One

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon