Newyddion

Diwrnod Aer Glân Cymru

Ymunwch â Diwrnod Aer Glân Cymru ddydd Iau 20 Mehefin

17 Mehefin 2019

Mae llawer o gamau syml y gallwch eu cymryd i helpu i wella ansawdd yr aer ledled Cymru a thu hwnt!

Mae dydd Iau 20 Mehefin yn Ddiwrnod Aer Glân yng Nghymru. Caiff yr ymgyrch ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan o’r ymgyrch ehangach a gynhelir ledled y DU.

Mae llygredd aer yn cynnwys yr holl lygryddion sydd i’w cael yn yr aer o’n cwmpas, nad yw’n bosibl i ni eu gweld fel rheol. Gall y llygryddion hyn gael effaith negyddol ar ein cyrff yn y tymor hir a’r tymor byr, gan fod modd eu hanadlu i mewn a’u hamsugno. Mae ffynonellau llygredd aer yn cynnwys prosesau cynhyrchu ynni, diwydiant, tanau agored, amaethyddiaeth a thrafnidiaeth.

Dyna pam yr ydym yn annog ein cwsmeriaid i gefnu ar eu car a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny, a dyna pam yr ydym yn cefnogi mentrau sy’n hybu dulliau o deithio sy’n fwy gwyrdd a glân. Mae defnyddio’r bws neu’r trên ar gyfer eich teithiau pob dydd yn lleihau nifer y ceir sydd ar ein ffyrdd, ac felly’n lleihau lefel y llygredd aer a gynhyrchir. Trwy ddefnyddio ein cynlluniwr cerdded a beicio, gallwch hefyd gynllunio eich teithiau o A i B ar droed neu ar gefn beic.

 

Mae gwneud newidiadau syml i’ch ffordd o fyw’n gallu helpu i wella ansawdd yr aer a lleihau lefelau’r llygryddion niweidiol sydd ynddo. Mae’r newidiadau hynny’n cynnwys:

  • Cefnu ar y car a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny
  • Cerdded i’r gwaith neu’r ysgol, neu fynd ar gefn eich beic neu’ch sgwter
  • Sicrhau bod eich boeler yn cael gwasanaeth bob blwyddyn er mwyn ei helpu i losgi tanwydd yn lân
  • Defnyddio nwyddau nad ydynt yn chwistrellau erosol
  • Stopio llygredd aer rhag cronni yn eich tŷ trwy agor y ffenestri
  • Dewis defnyddio strydoedd llai prysur pan fyddwch yn cerdded.

 

Sut y gallaf gymryd rhan?

  • Trefnwch ddigwyddiad codi ymwybyddiaeth yn eich ysgol, eich prifysgol neu’ch gweithle
  • Ymunwch yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodAerGlân a’r enw trydar @cleanairdayuk
  • Lawrlwythwch adnoddau’n rhad ac am ddim (posteri, taflenni, llythyrau newyddion, negeseuon e-bost) o wefan yr ymgyrch Diwrnod Aer Glân

 

Ewch i wefan yr ymgyrch Diwrnod Aer Glân i gael mwy o ffeithiau am lygredd aer, cael gafael ar adnoddau y mae modd eu lawrlwytho’n rhad ac am ddim, cael cyngor ynghylch eich diogelu eich hun a diogelu eich teulu rhag llygredd aer, a chael gwybodaeth ddefnyddiol arall.

Byddwn hefyd yn rhoi cynnwys sy’n ymwneud â’r ymgyrch #DiwrnodAerGlân ar ein cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol @TravelineCymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon