Newyddion

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-48636005

Hen swyddfeydd rheilffordd Bae Caerdydd wedi’u hadnewyddu

25 Mehefin 2019

  • Cafodd y swyddfeydd eu hagor yn swyddogol ar 17 Mehefin.
  • Mae’r adeilad yn cynnwys 23 o swyddfeydd, a bydd bar coctels a chaffi’n agor yno ym mis Gorffennaf.
  • Cafodd y gwaith o drawsnewid yr adeilad ei ariannu â benthyciad o £1 filiwn gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chynllun Benthyciadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol Trefi.

Cafodd swyddfeydd rheilffordd Bae Caerdydd eu dylunio gan Isambard Kingdom Brunel a’u hagor yn wreiddiol ym mis Hydref 1840, ac roeddent yn gartref i wasanaeth trên stêm cyntaf Cymru i deithwyr. Yna, bu’r adeilad yn bencadlys Cwmni Rheilffordd Taff Vale tan 1862.

Fodd bynnag, yn dilyn cau’r adeilad rhestredig Gradd II, aeth â’i ben iddo a bu’n wag am nifer o flynyddoedd. Yn 2016, cydnabuwyd yn swyddogol bod yr adeilad yn un o’r 10 adeilad Fictoraidd a oedd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain.

Mae’r adeilad wedi’i adnewyddu erbyn hyn gan y datblygwyr arobryn Loftco, a oedd yn gyfrifol hefyd am adnewyddu adeilad eiconig y ‘Tramshed’ yn Grangetown. Diolch i fenthyciad o £1 filiwn gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chynllun Benthyciadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol Trefi, mae adeilad ‘The Platform’ ar Bute Road yn cynnig 23 o swyddfeydd y gellir eu rhentu am gyfnod byr. At hynny, bwriedir agor bar coctels a chaffi yn yr adeilad ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr Loftco, fod y cwmni “yn falch o fod wedi addasu un o adeiladau mwyaf trawiadol a phwysig Caerdydd”.

Meddai’r Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu: “Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnig swyddfeydd o safon i fusnesau newydd, a fydd yn ategu’r cyfleusterau rhagorol a gynigir eisoes i fusnesau ym Mae Caerdydd.”

Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru: “Mae’n braf gweld sut y mae’r Cynllun Benthyciadau ar gyfer Canol Trefi wedi cael ei ddefnyddio i helpu i adnewyddu’r adeilad hanesyddol hwn.”

 

Ffynonellau gwybodaeth:

BBC News

Business News Wales

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon