Cafodd swyddfeydd rheilffordd Bae Caerdydd eu dylunio gan Isambard Kingdom Brunel a’u hagor yn wreiddiol ym mis Hydref 1840, ac roeddent yn gartref i wasanaeth trên stêm cyntaf Cymru i deithwyr. Yna, bu’r adeilad yn bencadlys Cwmni Rheilffordd Taff Vale tan 1862.
Fodd bynnag, yn dilyn cau’r adeilad rhestredig Gradd II, aeth â’i ben iddo a bu’n wag am nifer o flynyddoedd. Yn 2016, cydnabuwyd yn swyddogol bod yr adeilad yn un o’r 10 adeilad Fictoraidd a oedd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain.
Mae’r adeilad wedi’i adnewyddu erbyn hyn gan y datblygwyr arobryn Loftco, a oedd yn gyfrifol hefyd am adnewyddu adeilad eiconig y ‘Tramshed’ yn Grangetown. Diolch i fenthyciad o £1 filiwn gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Chynllun Benthyciadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol Trefi, mae adeilad ‘The Platform’ ar Bute Road yn cynnig 23 o swyddfeydd y gellir eu rhentu am gyfnod byr. At hynny, bwriedir agor bar coctels a chaffi yn yr adeilad ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Simon Baston, Rheolwr Gyfarwyddwr Loftco, fod y cwmni “yn falch o fod wedi addasu un o adeiladau mwyaf trawiadol a phwysig Caerdydd”.
Meddai’r Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu: “Bydd yr adeilad ar ei newydd wedd yn cynnig swyddfeydd o safon i fusnesau newydd, a fydd yn ategu’r cyfleusterau rhagorol a gynigir eisoes i fusnesau ym Mae Caerdydd.”
Meddai Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru: “Mae’n braf gweld sut y mae’r Cynllun Benthyciadau ar gyfer Canol Trefi wedi cael ei ddefnyddio i helpu i adnewyddu’r adeilad hanesyddol hwn.”
Ffynonellau gwybodaeth: