Newyddion

CTBW

Cyfle i ENNILL cystadleuaeth tynnu hunlun Traveline Cymru ar gyfer yr ‘Wythnos Dal y Bws’ rhwng 1 a 7 Gorffennaf!

26 Mehefin 2019

Rydym yn gofyn i chi anfon atom eich hunlun gorau wrth deithio ar y bws, er mwyn i chi gael cyfle i ennill hamper gwych sy’n llawn o roddion cynaliadwy a charedig i’r amgylchedd gan Viva Organic yng Nghaerdydd!

 

Beth yw’r ‘Wythnos Dal y Bws’?

Mae’r ‘Wythnos Dal y Bws’ (sef menter a gynhelir gan Greener Journeys) yn ymgyrch ledled y DU gyfan, sy’n cael ei chynnal am y seithfed flwyddyn ac sy’n ceisio hybu’r manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, a’r manteision o ran iechyd, sy’n gysylltiedig â chefnu ar y car a theithio weithiau ar y bws.

Cafodd 99.9 miliwn o deithiau teithwyr eu cyflawni ar fysiau lleol yng Nghymru yn 2017-18. I lawer ohonoch, mae gwasanaethau bws yn gyfleusterau hanfodol sy’n fforddiadwy ac yn hygyrch ac sy’n eich helpu i deithio yn hwylus i’r gwaith, yr ysgol, y coleg, eich ysbyty lleol neu ganol y dref.

Yn ystod yr ‘Wythnos Dal y Bws’ eleni, rydym am i fwy fyth ohonoch deithio ar fysiau. P’un a ydych yn teithio ar y bws yn rheolaidd neu’n ystyried dal eich bws lleol unwaith yr wythnos yn unig yn lle defnyddio’r car, rydym am glywed gennych!

Mae’r holl wybodaeth angenrheidiol am yr ‘Wythnos Dal y Bws’ i’w chael yma.

 

Beth yw’r gystadleuaeth?

Mae’n hawdd iawn cymryd rhan yn ein cystadleuaeth.

Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw anfon atom eich hunlun gorau wrth deithio ar y bws rhwng 1 a 7 Gorffennaf (yr ‘Wythnos Dal y Bws’) er mwyn cael cyfle i ennill gwobr. Bydd yr enillydd, a ddewisir ar hap, yn cael hamper sy’n llawn o nwyddau diwastraff, caredig i’r amgylchedd gan ein ffrindiau yn Viva Organic. Byddwn hefyd yn rhannu rhai o’ch hunluniau ar draws ein ffrydiau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn annog pobl eraill i ddal y bws!

Gallwch anfon eich hunlun atom drwy unrhyw un o’r dulliau canlynol:

  • Anfonwch ebost i feedback@traveline.cymru gan nodi ‘Cystadleuaeth yr Wythnos Dal y Bws’ fel pwnc yr ebost.
  • Tagiwch ni ar Instagram @travelinecymru
  • Soniwch amdanom ar Twitter @travelinecymru
  • Anfonwch neges atom ar Facebook drwy ein tudalen @travelinecymru

 

Yna, bydd eich hunlun yn cael ei ystyried ar gyfer y wobr a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar ôl y dyddiad cau (7 Gorffennaf). Caniateir i chi gymryd rhan yn y gystadleuaeth unwaith y dydd â hunlun gwahanol, sy’n golygu y bydd gennych 7 cyfle i gystadlu os byddwch yn anfon llun atom bob dydd tra bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal. Po amlaf y byddwch yn dal y bws, y gorau fydd eich siawns o ennill!

Byddwn yn cysylltu â’r enillydd pan fydd wedi’i ddewis ar hap, felly peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol breifat (megis eich cyfeiriad ebost neu gyfeiriad eich cartref) os byddwch yn anfon eich hunlun ar gyfryngau cymdeithasol.

Wir i chi, mae mor syml â hynny!

Dylech sicrhau eich bod yn darllen yr holl amodau a’r holl delerau sydd ar waelod y dudalen cyn cymryd rhan.

 

Beth yw’r wobr?

Siop ddiwastraff ym Mhontcanna yng Nghaerdydd yw Viva Organic, a agorodd ei drysau am y tro cyntaf yn 2018. Mae’r siop yn galluogi ei chwsmeriaid i brynu eu bwyd mewn modd diwastraff a chynaliadwy, ac mae’r nwyddau i gyd yn organig – o’r gwahanol fathau o sudd i’r coffi arbenigol, y sebonau organig, y brwshis dannedd a’r bagiau cario.

Mae gan y perchennog Rod Thomas a’i wraig, Siobhan, ddau o blant sydd ag alergedd i gynnyrch llaeth, glwten a soia. Penderfynodd y ddau siopa’n organig a pheidio â phrynu unrhyw fwydydd a allai gynnwys plaladdwyr, er mwyn helpu i reoli anghenion dietegol eu plant. Ond roeddent yn ei chael yn anodd dod o hyd i rywle yng Nghaerdydd lle gallent gael gafael ar y nwyddau organig a chynaliadwy hyn. Felly, cafodd Viva Organic ei sefydlu!

Rydym o’r farn bod y neges gadarnhaol, gynaliadwy, garedig i’r amgylchedd sydd wrth wraidd Viva Organic yn cyd-fynd yn berffaith â’r ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol, iechyd corfforol ac iechyd meddwl yr ydym yn ceisio ei hybu yn ystod yr ‘Wythnos Dal y Bws’. Mae Viva Organic hefyd yn fusnes annibynnol sy’n elwa o gael pobl yn siopa’n lleol. Rydym yn falch iawn o allu rhoi un o hamperi gwych y siop i enillydd ein cystadleuaeth!

 

Pob lwc i bawb, a chofiwch deithio ar fysiau yn ystod yr Wythnos Dal y Bws eleni!

 

Os oes arnoch angen help i gynllunio eich taith ar fws, cofiwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith, ein tudalen Amserlenni a’n Chwiliwr Arosfannau Bysiau ar wefan ac ap Traveline Cymru.

Mae gennym rif Rhadffôn y gallwch ei ffonio hefyd, sef 0800 464 00 00. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb eich holl ymholiadau ynghylch gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus bob dydd rhwng 7am ac 8pm.

 

I gael gwybod mwy am ‘Wythnos Dal y Bws 2019’, ewch i dudalen ein blog neu i wefan yr ymgyrch.

 
Amodau a thelerau

1.       Bydd y gystadleuaeth yn agor ar 1 Gorffennaf 2019 ac yn cau am 23:59 ar 7 Gorffennaf 2019.

2.       Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb sy’n byw yng Nghymru a bydd yn rhaid i’r hamper gael ei hanfon i gyfeiriad yng Nghymru.

3.       Caniateir i bob cwsmer gymryd rhan yn y gystadleuaeth unwaith y dydd â hunlun gwahanol. Mae hynny’n golygu y bydd gennych hyd at 7 cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a fydd yn para wythnos.

4.       Os byddwch yn anfon unrhyw luniau y bernir eu bod yn amhriodol, byddwch yn cael eich diarddel yn awtomatig o’r gystadleuaeth.

5.       Peidiwch â gadael unrhyw fanylion personol, megis eich cyfeiriad ebost neu gyfeiriad eich cartref, pan fyddwch yn anfon eich hunluniau ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn cysylltu â’r enillydd ar ôl i’r gystadleuaeth gau er mwyn cael y wybodaeth honno.

6.       Peidiwch ag anfon eich hunluniau drwy asiantaethau neu drydydd partïon. Ni fydd hunluniau a gaiff eu hanfon drwy’r dulliau hynny’n ddilys.

7.       Yr hamper yw unig wobr y gystadleuaeth ac ni ellir ei chyfnewid am arian parod.

8.       Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis yn gyfan gwbl ar hap a bydd penderfyniad Traveline Cymru yn derfynol.

9.       Mae Traveline Cymru yn cadw’r hawl i newid, addasu neu gau’r gystadleuaeth os oes rhaid.

10.   Os bydd anghydfod, bydd penderfyniad Traveline Cymru yn derfynol.

11.   Wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, rydych yn dangos eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn.

12.   Caiff y gystadleuaeth ei threfnu gan PTI Cymru Ltd sy’n masnachu fel Traveline Cymru.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon