Newyddion

Traveline Cymru yn ennill Gwobr y Celfyddydau a Busnes Bach am ei bartneriaeth arloesol

Traveline Cymru yn ennill Gwobr y Celfyddydau a Busnes Bach am ei bartneriaeth arloesol

12 Gorffennaf 2019

Mae Traveline Cymru yn “falch dros ben” o fod wedi ennill gwobr neithiwr yng Ngwobrau Arts & Business Cymru lle cyflwynwyd Gwobr y Celfyddydau a Busnes Bach i’r cwmni am ei bartneriaeth arloesol â Focus Wales a Hijinx Theatre.

Nod Gwobrau Arts & Business Cymru 2019, a gyflwynwyd am y 25ain flwyddyn eleni, yw cydnabod “creadigrwydd a rhagoriaeth” mewn partneriaethau rhwng byd busnes a’r celfyddydau.

Enillodd Traveline Wobr y Celfyddydau a Busnes Bach am ei waith gyda Focus Wales a Hijinx.  Roedd y prosiect, drwy gyfleoedd i wirfoddoli, yn targedu pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio oddi wrth y celfyddydau oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.

Meddai Jo Foxall: “Rydym yn falch dros ben o fod wedi ennill gwobr ac rydym yn gobeithio y bydd yn codi proffil Traveline Cymru fel sefydliad sy’n gweithio ar brosiectau arloesol, blaengar a chynhwysol.

“Rydym yn edrych ymlaen at greu partneriaethau arloesol eraill ac at weithio ar brosiectau llwyddiannus a chyffrous yn y dyfodol.”

Busnes Cymreig yw Traveline Cymru sy’n cyflogi 42 o bobl yng nghanol Caerdydd ac ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd.

Mae cwmnïau o bob maint ac o bob rhan o Gymru yn cystadlu i geisio ennill y gwobrau “o fri” hyn a gyflwynwyd mewn seremoni ddydd Iau 11 Gorffennaf yng Nghanolfan y Mileniwm.

Meddai Rachel Jones, Prif Weithredwr Arts & Business Cymru: “Unwaith eto, mae ein partneriaid busnes yn dangos eu cred ym mhwysigrwydd a grym y celfyddydau, ac roedd amrywiaeth yr enwebiadau a gafwyd ar gyfer y Gwobrau eleni’n arwydd clir o effeithiolrwydd partneriaethau â’r celfyddydau ar gyfer busnesau yng Nghymru.

“Mae Arts & Business Cymru yn falch o chwarae rhan yn y gwaith o feithrin cynifer o brosiectau arloesol sy’n helpu i greu cymdeithas gyfoethocach. Yn y seremoni flaenllaw hon, mae’n fraint wirioneddol gallu clodfori’r goreuon ymhlith y sawl sy’n cydweithio ar draws amryw sectorau.” 

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog. 

 

-Diwedd-

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Rhian Richards jamjar PR ar 01446 771265 neu rhian@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon