Newyddion

Stagecoach yn Ne Cymru yn cynorthwyo clwb pêl-droed lleol yng Nglynebwy

Stagecoach yn Ne Cymru yn cynorthwyo clwb pêl-droed lleol yng Nglynebwy

18 Gorffennaf 2019

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cynorthwyo clwb pêl-droed lleol, sef Clwb Pêl-droed RTB Glynebwy, drwy noddi’r citiau pêl-droed ar gyfer y tîm dan 9 oed a’r tîm dan 10 oed.

Mae Andrew Pope, sef Arolygydd Depo Stagecoach ym Merthyr Tudful, yn hyfforddi’r tîm dan 10 oed ac wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb ers tair blynedd ers i’w ddau fab ymuno ag ef yn 2016, a chysylltodd â Stagecoach ynghylch cael rhywfaint o gymorth.

Cynigiodd Stagecoach £550 i dalu am gitiau newydd ar gyfer y ddau dîm, sy’n dangos logo Stagecoach a logo’r clwb pêl-droed. Cyfarfu Rheolwr Gweithrediadau Dros Dro Depo Merthyr Tudful, Maria Muggridge, â’r ddau dîm er mwyn cyflwyno’r citiau newydd iddynt.

Meddai Jonathan Greenland, Pennaeth Datblygu Ieuenctid y clwb: “Hoffai Clwb Pêl-droed RTB Glynebwy ddiolch yn bersonol i Stagecoach yn Ne Cymru am nawdd hael y cwmni i’n tîm dan 9 oed a’n tîm dan 10 oed. Mae’r nawdd wedi ein galluogi ni fel clwb i roi citiau ac offer i’r plant, a fydd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau fel pêl-droedwyr. Ein nod fel clwb yw annog plant o bob oed i chwarae pêl-droed mewn amgylchedd diogel lle gallant gael hwyl. Rydym yn hoffi rhoi cyfle iddynt gyflawni eu potensial fel athletwyr y dyfodol.

“Diolch i Stagecoach yn Ne Cymru, rydym wedi gallu cymryd cam arall tuag at gyflawni’r nod hwnnw ac wedi cael cyfle i weld ein timau’n cystadlu mewn twrnameintiau a digwyddiadau ar draws y DU. Rydym yn falch fel clwb bod logo Stagecoach ar ein citiau er mwyn i ni allu dangos y cymorth y mae’r cwmni wedi’i roi i ni, ac mae’n fraint cael bod yn rhan o deulu Stagecoach.”

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym yn annog ein staff i gymryd rhan mewn digwyddiadau elusennol lleol neu mewn mudiadau cymunedol, ac rydym yn falch o allu eu cynorthwyo gydag unrhyw weithgarwch codi arian. Mae’n wych gweld y pêl-droedwyr ifanc hyn yn gwisgo eu citiau newydd a hoffem ddymuno pob lwc i’r timau yn y gemau sydd i ddod”.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon