
Cerdyn rheilffordd newydd i bobl ifanc 16-17 oed yn haneru pris tocynnau trên
15 Awst 2019- Gellir prynu’r cerdyn rheilffordd o 20 Awst ymlaen a bydd yn ddilys o 2 Medi ymlaen.
- Yn ôl Adran Drafnidiaeth y DU, bydd y sawl sy’n ei ddefnyddio yn arbed “£186 bob blwyddyn” ar gyfartaledd.
- Mae cerdyn rheilffordd yn costio £30 ac yn ddilys am flwyddyn neu nes y bydd y sawl sy’n ei ddefnyddio yn 18 oed.
Bydd y cerdyn rheilffordd 16-17 newydd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ar gael i’w brynu o ddydd Mawrth 20 Awst ymlaen. Bydd y cerdyn rheilffordd yn haneru cost llawer o docynnau trên i bobl ifanc 16-17 oed yng Nghymru a Lloegr, yn ogystal â chost rhai gwasanaethau yn yr Alban.
Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn amcangyfrif y bydd 1.2 miliwn o bobl yn elwa o’r cynllun drwy “arbed £186 bob blwyddyn ar gyfartaledd”. Yn wahanol i gardiau rheilffordd eraill, mae’r cerdyn rheilffordd 16-17 yn gerdyn y gellir ei ddefnyddio hefyd yn ystod oriau brig ac i brynu tocynnau tymor, a fydd yn helpu pobl ifanc i arbed mwy fyth o arian wrth deithio i’r ysgol, y coleg neu’r gwaith.
Gyda pha docynnau y galla’ i ddefnyddio fy ngherdyn rheilffordd 16-17? |
Tocynnau safonol a thocynnau unffordd a dwyffordd diwrnod, y gellir eu defnyddio unrhyw bryd |
Tocynnau safonol a thocynnau unffordd a dwyffordd diwrnod, y gellir eu defnyddio y tu allan i oriau brig |
Tocynnau safonol arbennig a thocynnau unffordd a dwyffordd diwrnod arbennig, y gellir eu defnyddio y tu allan i oriau brig |
Tocynnau safonol a brynir ymlaen llaw |
Tocynnau tymor (gan gynnwys tocynnau wythnos, tocynnau mis a thocynnau blwyddyn) |
Y rhan fwyaf o docynnau ‘Rail Rover’ |
Tocynnau ar gyfer y ‘Gatwick Express’, y ‘Stansted Express’ a’r ‘Heathrow Express’ |
TocynnauPLUSBUS |
Ni all y sawl sydd â cherdyn rheilffordd 16-25 ar hyn o bryd (sy’n cynnig 1/3 oddi ar bris tocynnau) gyfnewid eu cerdyn rheilffordd presennol am y cerdyn 16-17 newydd. Fodd bynnag, gallant brynu’r cerdyn rheilffordd newydd am £25 er mwyn elwa o’r fenter newydd. Bydd y cerdyn rheilffordd 16-17 yn ddilys am flwyddyn neu nes y bydd y cwsmer yn 18 oed, pa ddyddiad bynnag ddaw gyntaf, ac ni fydd ar gael i bobl y tu allan i’r grŵp oedran hwn.
Meddai Gweinidog Rheilffyrdd y DU, Chris Heaton-Harris: “Mae’r cerdyn rheilffordd newydd yn golygu y bydd cenhedlaeth o deithwyr ar drenau’n gallu elwa o gael tocynnau rhatach, a fydd yn eu galluogi i arbed arian ac a fydd yn eu helpu i deithio i’r ysgol, y coleg a’r gwaith.”
Bydd y cerdyn rheilffordd 16-17 ar gael i’w brynu ar-lein neu drwy ffonio 0345 301 1656 o 9am ymlaen ddydd Mawrth 20 Awst. Yna, bydd y cerdyn yn ddilys i’w ddefnyddio o 2 Medi ymlaen, sy’n cyd-daro â dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Ffynhonnell y wybodaeth: Independent/ Trafnidiaeth Cymru