Newyddion

Traveline Cymru yn cyhoeddi gwelliannau i’w Gynlluniwr Beicio

Traveline Cymru yn cyhoeddi gwelliannau i’w Gynlluniwr Beicio

22 Awst 2019

Mae’r gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Gymru wedi ychwanegu gwybodaeth newydd at ei Gynlluniwr Taith, ar gyfer beicwyr yn benodol.

Mae’r Cynlluniwr Beicio wedi’i ddiweddaru fel ei fod yn cynnwys gwybodaeth am fannau peryglus ar lwybrau, megis croesfannau a goleuadau traffig; uchder y tir ar hyd llwybr; rhagolygon ynghylch lefelau’r traffig; a chyfleuster cyfrifo CO2 er mwyn helpu beicwyr i gynllunio eu taith a bod yn fwy diogel ar y ffyrdd.

Mae’r gwelliannau yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio troi Cymru yn ‘genedl teithio llesol’ ac sy’n hybu dulliau llesol o deithio at ddibenion hamdden neu ddibenion gwaith.

Ers gwella’r Cynlluniwr Beicio, mae Traveline Cymru wedi cael 2,490 o ymweliadau â thudalen ei Gynlluniwr Beicio dros gyfnod o naw mis, o gymharu â 1,335 cyn i’r gwelliannau gael eu gwneud.

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Ers i’n Cynlluniwr Beicio ar-lein gael ei wella, rydym wedi gweld cynnydd o 86.94% yng nghanlyniadau’r Cynlluniwr Beicio.

“Rydym yn teimlo bod y newidiadau wedi bod yn fuddiol ac y bydd ein gwybodaeth am ddiogelwch yn arbennig o ddefnyddiol i feicwyr – gwybodaeth am bethau megis lleoliadau goleuadau traffig a chroesfannau peryglus.

“Rydym wedi ymrwymo i hybu Cynllun Gweithredu Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, ac rydym am annog beicwyr i ddefnyddio ein Cynlluniwr Beicio i’w helpu i gynllunio llwybrau mwy diogel i deithio arnynt.”

Meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, mewn digwyddiad yn gynharach eleni: “Mae cael pobl allan o’u ceir ar gyfer teithiau byr a’u cael i deithio mewn modd sy’n gwella eu hiechyd yn agenda uchelgeisiol. Ond bydd yn arwain at lawer o fanteision a fydd yn cynnwys aer glanach, ffyrdd llai prysur, iechyd meddwl gwell a siopau lleol mwy llewyrchus. Rydym wedi gweld eisoes mewn gwledydd eraill bod yr effaith yn gallu bod yn drawsnewidiol. Ac os ydym am drawsnewid dewisiadau pobl o ran trafnidiaeth a mwynhau’r manteision, rhaid i ni anelu’n uchel a bod yn uchelgeisiol.”

Mae’r Cynlluniwr Beicio sydd wedi’i ddiweddaru ar gael yn rhan o Gynlluniwr Taith Traveline Cymru ar ei wefan.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon