Newyddion

https://tfw.gov.wales/cy/cerdynteithio

Newidiadau i Gardiau Teithio Rhatach

12 Medi 2019

O ddydd Mercher 11 Medi ymlaen, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol a Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cardiau Teithio Rhatach ar eu newydd wedd erbyn diwedd Rhagfyr 2019. Bydd y cardiau hyn yn disodli’r ‘pàs bws’ gwyrdd presennol ledled Cymru.

Caiff pobl eu hannog i wneud cais am eu cerdyn newydd mewn da bryd cyn diwedd y flwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i fanteisio ar docynnau teithio rhatach. Ni fydd y darllenwyr electronig ar fysiau yn derbyn yr hen fath o gardiau ar ôl 31 Rhagfyr 2019.

Bydd y cardiau ar eu newydd wedd yn cynnig yr un manteision a’r un hawliau i deithio am ddim â’r cardiau presennol. Mae’r cardiau newydd wedi’u dylunio fel y byddant yn gallu gweithio’n rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol.  

Caiff pobl eu hannog i wneud cais ar-lein neu i ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun y maent yn ymddiried ynddo wneud cais ar-lein ar eu rhan.

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i wneud cais am eich cerdyn:

  • Y rhif hir sydd ar flaen eich cerdyn bws gwyrdd
  • Eich dyddiad geni
  • Y cod post y mae eich cerdyn presennol wedi’i gofrestru iddo
  • Eich rhif yswiriant gwladol

Os oes angen unrhyw help arnoch gyda’ch cais, ffoniwch y tîm cymorth ar 0300 303 4240. Bydd aelodau’r tîm yn gallu ateb eich ymholiadau a’ch rhoi chi ar y trywydd iawn os oes angen cymorth pellach arnoch. Dylid nodi nad oes modd gwneud cais am y cerdyn dros y ffôn.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon