Newyddion

http://www.deeside.com/new-park-and-ride-to-boost-deeside-industrial-park/

Cynllun Parcio a Theithio newydd yn rhoi hwb i Barc Diwydiannol yn y gogledd

19 Medi 2019

Bydd y cynllun, sy’n cyflawni elfennau allweddol o’r weledigaeth ar gyfer Metro ac sy’n cyd-fynd â Chynllun y Cyngor ar gyfer Glannau Dyfrdwy, yn gwella mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac yn gwella cysylltiadau o fewn y Parc, a fydd yn galluogi mwy o dwf o safbwynt cyflogaeth.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn darparu safle parcio a theithio, a fydd yn cynnwys 227 o leoedd parcio ac a fydd yn defnyddio bysiau, ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy sy’n cael ei wasanaethu ar hyn o bryd gan wasanaeth Bws Gwennol Glannau Dyfrdwy.  Bydd y cynllun hefyd yn golygu creu cyswllt bysiau’n unig o’r safle parcio a theithio i Barth 2 yr ystâd.

Pan fydd y safle parcio a theithio wedi agor, mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu cyflwyno cyfyngiadau aros er mwyn mynd i’r afael â’r problemau a achosir gan bobl sy’n parcio ym mhob man, gan eu hannog i ddefnyddio’r cyfleuster newydd.

Dyfarnwyd £988,500 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y cynllun yn 2017-2018. Mae £1,300,000 yn rhagor wedi’i ddyfarnu ar gyfer 2019-2020 er mwyn galluogi’r Cyngor i gwblhau’r gwaith adeiladu.

 

Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Ers tro, hygyrchedd gwael yw’r prif ffactor sydd wedi achosi problemau o ran cadw busnesau a recriwtio gweithwyr ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, ac mae hefyd wedi cyfyngu’n fawr ar allu’r Parc i ddenu busnesau newydd ac ar allu’r busnesau sydd yno’n barod i ehangu.

Mae busnesau hefyd wedi mynegi pryderon am y diffyg lleoedd parcio yn y Parc, sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae pobl yn parcio ym mhob man ac at dagfeydd traffig.

Bydd y datblygiad hwn yn mynd i’r afael â llawer o’r problemau ar y safle ac yn galluogi llawer o bobl yn yr ardaloedd cyfagos i fanteisio ar y cyfleoedd o ran cyflogaeth sydd ar gael ar stepen eu drws."

 

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Strydwedd a Chludiant, Y Cynghorydd Carolyn Thomas:

"Rwyf wrth fy modd bod cyllid wedi’i sicrhau er mwyn adeiladu’r cyfleuster parcio a theithio yng Nglannau Dyfrdwy. Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau cyffrous sydd yn yr arfaeth, a fydd yn integreiddio pob dull o deithio. Mae’r cyfnod allweddol hwn yn y cynllun yn dangos yr ymrwymiad i symud ymlaen â’r weledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn Sir y Fflint.

Mae 400 o fusnesau ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, sy’n cyflogi 9,000 o bobl, ond mae busnesau a gweithwyr posibl wedi bod yn dweud ers amser bod hygyrchedd yn broblem ac yn aml yn rhwystr. Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r broblem trwy ddatblygu Metro’r Gogledd-ddwyrain sy’n integreiddio’r rhwydwaith trenau, bysiau a beicio gan wneud y ganolfan gyflogaeth bwysig hon yn fwy hygyrch."

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Business News Wales

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon