Newyddion

https://www.stagecoachbus.com/promos-and-offers/south-wales/service-25-updated-information

Stagecoach yn Ne Cymru yn cyhoeddi newyddion da i’r sawl sy’n teithio o Ysbyty Athrofaol Cymru i Gaerffili

09 Hydref 2019

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cyhoeddi, ar ôl adolygu adborth gan ei gwsmeriaid ynghylch gwasanaeth 25 Caerffili – Caerdydd, y bydd rhan o’r llwybr yn cael ei hailgyflwyno o ddydd Sul 5 Ionawr 2020 ymlaen.

Bydd hynny’n newyddion gwych i’r sawl sy’n teithio rhwng Ysbyty Athrofaol Cymru a Chyfnewidfa Caerffili. At hynny, bydd gwasanaeth 25 yn teithio ar hyd Caerphilly Road a heibio i Amlosgfa Thornhill/Caerdydd hyd at bob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei dreialu am 6 mis a bydd Stagecoach yn monitro perfformiad. Hoffai’r cwmni ddiolch i’w gwsmeriaid am eu hadborth gwerthfawr.

Bydd amserlen y gwasanaeth ar gael ar-lein yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, felly cofiwch gadw golwg ar wefan Stagecoach yn Ne Cymru a’n gwefan ni.

Mae gwasanaeth aur 26 yn gweithredu rhwng Caerffili a Chaerdydd hefyd, hyd at bob 30 munud. Mae Wi-Fi a mannau gwefru USB rhad ac am ddim ar gael ar y bysiau, felly gallwch eistedd yn ôl ac ymlacio yn ystod eich taith!

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon