Newyddion

Stagecoach yn gwahodd teithwyr yn ne Cymru i enwebu eu seren gwasanaeth i gwsmeriaid

Stagecoach yn gwahodd teithwyr yn ne Cymru i enwebu eu seren gwasanaeth i gwsmeriaid

16 Hydref 2019

  • Gwahodd teithwyr i enwebu eu hoff aelod o staff
  • Gwobrau seren yn cydnabod cyflawniadau staff ym maes diogelwch, gwasanaeth i gwsmeriaid a’r gymuned
  • Mae modd cyflwyno enwebiadau yma tan 11 Tachwedd

Mae Stagecoach wedi lansio ei wobrau blynyddol i’w weithwyr ac mae’n gwahodd teithwyr yn ne Cymru i enwebu eu seren gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae’r gwobrau i weithwyr, sy’n cael eu rhoi am y degfed flwyddyn eleni, yn cydnabod cyflawniadau staff mewn nifer o feysydd gan gynnwys diogelwch, gwasanaeth i gwsmeriaid, arloesi, y gymuned, iechyd a lles, yr amgylchedd a rhagoriaeth wrth weithredu. At hynny, bydd gwobr gyffredinol yn cael ei rhoi i Seren Stagecoach, sef pencampwr y pencampwyr.

Gall cwsmeriaid enwebu aelod o staff y maent yn ei weld yn rheolaidd ac sy’n cynnig gwasanaeth gwych yn gyson yn eu tyb nhw. Fel arall, mae’n bosibl bod aelod o dîm Stagecoach yn haeddu gwobr ar ôl gwneud rhywbeth eithriadol i helpu cwsmer.

Fel gweithredwr bysiau mwyaf y DU, mae’r gwobrau yn agored i bob un o 24,000 o weithwyr y cwmni ledled y wlad, gan gynnwys gweithwyr o dde Cymru.

Mae’r broses enwebu wedi agor a gellir cyflwyno enwebiadau yma tan ddydd Llun 11 Tachwedd.

Yn ogystal, bydd pob cwsmer sy’n enwebu gweithiwr yn cael cyfle i ennill talebau Love2Shop gwerth £250.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Ein pobl yw sylfaen ein busnes ac rydym yn falch bod gennym dîm o 24,000 o weithwyr sydd wedi’u hyfforddi’n dda ledled y wlad, sy’n gwneud gwaith gwych i gysylltu ein cwsmeriaid â swyddi, sgiliau, hyfforddiant, siopau a chyfleusterau hamdden ac sy’n helpu i ddod â theuluoedd a chymunedau at ei gilydd.

“Rydym yn cael adborth da ynghylch ein gweithwyr ac rydym yn gwybod bod gan lawer o’n cwsmeriaid eu hoff yrrwr bws, eu hoff gynorthwy-ydd gwasanaeth i gwsmeriaid neu’u hoff arolygydd sy’n gwneud eu taith yn well fyth.  Byddem yn falch iawn o gael clywed pwy yw hoff weithiwr ein cwsmeriaid yn ne Cymru.”

Dylai cwsmeriaid sy’n dymuno enwebu gweithiwr fynd i wefan Stagecoach i lenwi ffurflen ar-lein, gan nodi eu henw, eu manylion cyswllt*, eu lleoliad, enw’r gweithiwr sy’n cael ei enwebu a’r rheswm pam y mae’n cael ei enwebu. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw canol nos, ddydd Llun 11 Tachwedd 2019.  Bydd panel beirniaid sy’n cynnwys gyrwyr, rheolwyr a pheirianwyr yn dewis yr enillwyr a bydd gwobrau’n cael eu cyflwyno iddynt mewn seremoni wobrwyo a gynhelir ym mis Chwefror 2020.

 

*Bydd angen nodi manylion cyswllt er mwyn cael cyfle i ennill gwobr.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon