Stagecoach yn cynnig tocynnau hanner pris i deuluoedd a grwpiau yn ystod hanner tymor
25 Hydref 2019Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cyhoeddi y bydd unrhyw docynnau i grwpiau/teuluoedd ar gael am hanner pris o 26 Hydref tan 3 Tachwedd. Mae hynny’n golygu y bydd hyd at bump o bobl yn gallu teithio am gyn lleied â 74 ceiniog* yr un am ddiwrnod cyfan!
Mae Stagecoach am annog pobl i deithio o le i le yn ystod y gwyliau hanner tymor, a manteisio ar rai o’r digwyddiadau a gynhelir yn ystod y diwrnodau a fydd yn arwain at Galan Gaeaf. Beth yw’r pwynt gyrru a thalu am danwydd a lle parcio pan allwch chi fynd ar y bws, eistedd yn ôl a mwynhau sgwrsio â’ch gilydd.
Mae manylion rhai o’r tocynnau sy’n cynnig gwerth gwych am arian i’w gweld isod – maent yn costio llai na £1 y pen.
- Tocyn i grŵp yn ardal Caerffili: £4.45 - £0.89 y pen
- Tocyn i grŵp yn ardal Caerdydd: £3.70 - £0.74 y pen
- Tocyn i grŵp yn ardal Cwmbrân: £4.50 - £0.90 y pen
- Tocyn i grŵp yn ardal Merthyr Tudful: £4.15 - £0.83 y pen
- Tocyn i grŵp yn ardal Casnewydd: £3.75 - £0.75 y pen
- Tocyn i grŵp yn ardal Pont-y-pŵl: £4.60 - £0.92 y pen
Ewch i wefan Stagecoach i gael yr holl fanylion am docynnau.
*y pris ar sail tocyn i grŵp yn ardal Caerdydd ar gyfer 5 person