Newyddion

Traveline Cymru yn bartner i Nation Radio yn yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg

Traveline Cymru yn bartner i Nation Radio yn yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel 2019’

04 Tachwedd 2019

Yn dilyn llwyddiant lansio’r ymgyrch y llynedd, rydym yn falch iawn o fod yn bartner i Nation Radio unwaith eto yn ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel yr orsaf radio. Nod y fenter yw hybu diogelwch ar y ffyrdd i blant ledled de Cymru drwy eu helpu i fod yn weladwy bob amser.

Cafodd 80 o blant eu lladd neu’u hanafu yn ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn 2018. At hynny, cafodd dros 5,000 o blant eu hanafu ar ffyrdd ledled y DU yn 2017, a digwyddodd 23% o’r damweiniau rhwng 3pm a 5pm. Mae Traveline Cymru a Nation Radio am helpu i leihau’r ystadegau hyn, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn wrth iddi barhau i dywyllu’n fwyfwy cynnar.

I helpu plant ledled de Cymru i fod yn weladwy bob amser ar ein ffyrdd, gall ysgolion fynd i wefan Nation Radio ac archebu cylchau allweddi llachar i’w rhoi ar fagiau ysgol, o ddydd Llun 4 Tachwedd 2019 ymlaen.

  • Dim ond i ysgolion, meithrinfeydd neu grwpiau cymunedol yn ne Cymru sydd wedi cofrestru ac y mae eu cod post yn dechrau ag SA, SY, CF neu NP y bydd Nation Radio yn anfon cylchau allweddi.
  • Dim ond athrawon a staff cymorth all wneud cais am gylchau allweddi ar gyfer ysgolion a meithrinfeydd, ac os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd y cylchau allweddi’n cael eu hanfon yn eich enw chi.
  • Gall pob ysgol neu grŵp cymunedol wneud cais am uchafswm o 30 o gylchau allweddi.
  • Mae 5,000 o gylchau allweddi ar gael i’w dosbarthu.
  • Ni fydd pob cais am gylchau allweddi’n llwyddiannus. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y cylchau allweddi’n cael eu hanfon cyn pen 7-10 diwrnod gwaith ar ôl i’r cais gael ei dderbyn. Peidiwch â chysylltu â Nation Radio i ofyn a yw eich cais yn llwyddiannus.

Byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau blog ar wefan Traveline Cymru, a fydd yn cynnig cyngor i chi a’ch plant ynghylch cadw’n ddiogel pan fyddwch yn teithio ar y bws a’r trên a phan fyddwch yn beicio ac yn cerdded, gyda help ein gwasanaethau.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon