Newyddion

Staff Stagecoach yng Nghwm Rhondda yn rhannu ychydig o hwyl yr ŵyl trwy roi anrhegion i Ysbyty Plant LATCH

18 Rhagfyr 2019

Penderfynodd tri o yrwyr Stagecoach yn nepo Porth eu bod am rannu ychydig o hwyl yr ŵyl eleni â phlant lleol sy’n sâl oherwydd canser a lewcemia.

 

Aeth Steven Napper, Andrea Kavanagh a Callum Hennesey o ddepo Porth ati i ledaenu’r neges a gofyn i staff ym Mhorth roi anrhegion, siocledi ac unrhyw deganau y gallent eu cyfrannu i Ysbyty Plant ‘LATCH’ yng Nghaerdydd.

Cafwyd ymateb gwych, ac ers mis Tachwedd mae dwsinau o anrhegion wedi’u rhoi a’u storio yn y depo. At hynny rhoddodd yr Undeb sy’n cynrychioli depo Porth £100 er mwyn prynu teganau i fabanod, a chymerodd y gyrrwr Luke Rees ran mewn cystadleuaeth pŵl lle cododd £100 a ddefnyddiwyd i brynu anrhegion ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sydd yn yr Ysbyty.

Cysylltodd Andrea, Callum a’u cydweithiwr Byron Williams â LATCH, a chafodd trefniadau eu gwneud i gyflwyno’r anrhegion i’r plant yn yr Ysbyty ar 10 Rhagfyr. Bu’n rhaid iddynt deithio yno mewn fan gan nad oedd digon o le i’r holl anrhegion mewn car! Cafodd y gyrwyr ddiwrnod emosiynol yn cyfarfod â’r plant ar y ward, ac roeddent wrth eu bodd o weld eu hwynebau hapus.

 

 

Meddai Callum: “Mae rhoi yn fwy na gwneud cyfraniad, mae’n golygu gwneud gwahaniaeth. Dyna beth y mae LATCH yn ei wneud bob dydd, nid yn unig ar y wardiau ond hefyd yng nghartrefi’r plant. Rydym yn gobeithio y bydd ein hanrhegion yn gwneud gwahaniaeth i Nadolig rhai o’r plant eleni, gan mai plant sy’n bwysig adeg y Nadolig.”

Meddai Steve Price o LATCH: “Roedd yn hyfryd gweld yr holl deganau i blant a’r holl anrhegion i bobl ifanc a roddwyd gan staff a chyfeillion Stagecoach. Roeddem dan deimlad wrth weld y fan yn cyrraedd yn llawn dop o anrhegion mor arbennig a charedig a oedd o ansawdd mor dda.

Roedd yn bleser cael mynd â staff Stagecoach i Ward yr Enfys i ddosbarthu rhai o’r anrhegion yn gynnar, ac roedd ymateb y plant yn dod â dagrau i’w llygaid. Bydd gan gynifer o blant sy’n cael triniaeth ar gyfer canser neu lewcemia atgofion hapus a fydd yn para am byth, diolch i’r gefnogaeth garedig hon. Rydym yn diolch o waelod calon i staff Stagecoach am feddwl amdanynt y Nadolig hwn.”

Meddai Myrrick Jones, Rheolwr Gweithrediadau depo Porth: “Rydym mor falch o’r holl staff sydd wedi rhoi mor hael at yr achos teilwng hwn. Maent yn parhau i’n synnu â’u gweithgareddau codi arian caredig, ac mae’n wych eu gweld yn cefnogi teuluoedd lleol yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd y plant a’u teuluoedd yn cael Nadolig i’w gofio”.

 

 

Mae LATCH yn cefnogi plant sy’n cael triniaeth gan Uned Oncoleg Ysbyty Plant Cymru, a’u teuluoedd. Mae’r ysbyty yn trin cleifion o ardal sy’n ymestyn o Gas-gwent yn y de i Aberystwyth yn y gogledd. Mae tua 70 o gleifion newydd yn cael diagnosis bob blwyddyn.

Mae LATCH yn fwyaf adnabyddus am y llety y mae’n ei ddarparu i deuluoedd ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae’r uned yn cynnwys wyth o ystafelloedd gwely o’r un safon ag ystafelloedd gwesty (mae chwech ohonynt yn ystafelloedd en-suite) sy’n cynnwys teledu, cyfleusterau cegin, ystafell golchi dillad, ystafell fwyta a lolfa fel bod teuluoedd yn gallu teimlo’n gartrefol. Caiff y llety ei gynnig yn rhad ac am ddim i deuluoedd, ac mae’n helpu i’w cadw gyda’i gilydd tra bydd eu plentyn yn treulio cyfnod yn yr ysbyty.

 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon