Newyddion

Rheolwr Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio ym Mhrifysgol Caerdydd

Swydd Wag: Rheolwr Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio ym Mhrifysgol Caerdydd

13 Ionawr 2020

Dyddiad cau: 13/2/2020 (Mae Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i gau’r ffenestr ymgeisio’n gynnar os bydd digon o geisiadau wedi dod i law)

Mae Prifysgol Caerdydd yn bwriadu penodi Rheolwr Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio. Bydd deiliad y swydd newydd hon yn arwain y gwaith o ddatblygu cynllun teithio’r Brifysgol, yn datblygu a rheoli swyddogaeth ganolog ar gyfer rheoli fflyd, ac yn arwain y gwaith o adolygu a datblygu trefniadau parcio’r Brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o’r Tîm Rheoli Gweithrediadau Ystadau (Gwasanaethau Cymorth) sy’n rheoli amrywiaeth o wasanaethau eraill ym maes rheoli cyfleusterau ar gyfer y brifysgol gyfan, gan gynnwys gwasanaethau diogelwch a phorthorion, gwasanaethau rheoli gwastraff, gwasanaethau glanhau, gwasanaethau derbynfa a gwasanaethau rheoli adeiladau.
 
Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio:

  • Yn darparu arweiniad a chyngor ynghylch polisïau, deddfwriaeth ac arferion lleol a chenedlaethol sy’n dod i’r amlwg ym maes trafnidiaeth i Grŵp Llywio System Reoli Amgylcheddol y Brifysgol, y timau Ystadau a Chyfleusterau Campws, colegau’r Brifysgol, ei hysgolion a’i thimau gwasanaethau proffesiynol,
  • Yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a hyrwyddo Cynllun Teithio Cynaliadwy a Chynllun Gweithredu’r Brifysgol,
  • Yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu Polisi Cerbydau’r Brifysgol, a fydd yn cynnwys rheoli fflyd y Brifysgol o gerbydau a chynghori ynghylch caffael cerbydau,
  • Yn goruchwylio’r gwaith o reoli meysydd parcio’r Brifysgol, ei systemau rheoli parcio ac unrhyw bolisïau cysylltiedig,
  • Yn sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â deddfwriaeth o ran cynllunio ac o ran iechyd a diogelwch ym maes Gwasanaethau Teithio, Trafnidiaeth a Pharcio.

 

Mae’r swydd yn un amser llawn, tymor agored (35 awr yr wythnos).

Cyflog:  £42,792 - £49,553 y flwyddyn (Gradd 7).

 

Ewch i dudalen Swyddi Prifysgol Caerdydd i weld y disgrifiad swydd (gan gynnwys ei diben a’i dyletswyddau) a’r manyleb person yn llawn. Gallwch ddefnyddio’r dudalen hon i ymgeisio am y swydd hefyd.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon