Newyddion

Traveline Cymru yn dathlu 20 mlynedd o ‘alluogi’r genedl i grwydro’

Traveline Cymru yn dathlu 20 mlynedd o ‘alluogi’r genedl i grwydro’

16 Ionawr 2020

Mae Traveline Cymru, y darparwr gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn dathlu 20 mlynedd o “alluogi’r genedl i grwydro”.

Mae’r gwasanaeth, sy’n darparu gwybodaeth ddwyieithog am lwybrau, prisiau tocynnau ac amserlenni ar gyfer holl wasanaethau bws a thrên y wlad, yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni ar ôl cael ei sefydlu yn 2000.

Dros y ddau ddegawd diwethaf mae Traveline Cymru wedi helpu cwsmeriaid i gynllunio dros wyth miliwn o deithiau ledled Cymru drwy ei wefan; mae wedi darparu dros 5.6 miliwn o wahanol ddarnau o wybodaeth am drafnidiaeth mewn un flwyddyn yn unig; ac mae ei ap wedi cael ei ddefnyddio dros 5 miliwn o weithiau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, llwyddodd i ymdrin â bron 100,000 o alwadau i’w ganolfan gyswllt ddwyieithog a llwyddodd i ddarparu 5.1 miliwn o wahanol ddarnau o wybodaeth am drafnidiaeth, gan gynnig gwasanaeth cwsmer o safon uchel yn gyson, diolch i’r ffaith bod ei wasanaeth yn hawdd ei ddefnyddio, yn hygyrch ac yn gywir.

Mae’r sefydliad, sy’n gweithio gyda phob cwmni bysiau a threnau yng Nghymru, pob un o’r 22 o awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, yn cyflogi 53 aelod o staff ar ei ddau safle yng Nghaerdydd a Phenrhyndeudraeth.

Mae ei ddull gweithredu blaengar a’i wasanaeth cwsmer, sydd o safon uchel yn gyson, yn golygu bod Traveline Cymru wedi ennill nifer o wobrau, a’r un ddiweddaraf oedd y Wobr am Wasanaethau i’r Diwydiant Trafnidiaeth yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru y llynedd.

I ddathlu pen-blwydd arbennig Traveline Cymru, cynhaliodd y sefydliad ddigwyddiad arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd, a noddwyd gan Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

Wrth sôn am lwyddiant parhaus y sefydliad dros y ddau ddegawd diwethaf, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru Jo Foxall ei bod yn “hynod falch” o dwf a chyflawniadau’r sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw.

Meddai: “O’r dyddiau cynnar yn ôl yn 2000, gwelsom fod galw ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol am y wybodaeth ddiweddaraf am deithio ar draws gwasanaethau bws a thrên.

“Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae’r angen hwnnw am wybodaeth wedi parhau i gynyddu ac esblygu wrth i ni fabwysiadu technoleg ar-lein a thechnoleg ddigidol.

“Felly, mae Traveline Cymru wedi cryfhau ac wedi gwella ei ddarpariaeth yn barhaus er mwyn parhau i ddiwallu anghenion miliynau o deithwyr ledled Cymru bob blwyddyn.

“Rydym yn hynod falch o’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud dros y ddau ddegawd diwethaf ac o’r ffaith ein bod wedi galluogi’r genedl i grwydro ac wedi helpu gyda miliynau o deithiau yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Hoffem ddiolch i’n holl gwsmeriaid, partneriaid a rhanddeiliaid sydd wedi cefnogi Traveline Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at eich cynorthwyo ymhellach yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Mae Traveline Cymru yn gwmni dielw sy’n seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau, prisiau tocynnau ac amserlenni ar gyfer holl wasanaethau bws a thrên y wlad trwy wefan ddwyieithog, rhif Rhadffôn a chyfres o wasanaethau i ddefnyddwyr ffonau symudol.

 

Ar gyfer ymholiadau gan y wasg, cysylltwch ag Ellé Holley ar elle@jamjar.agency neu Gemma Gwilym ar gemma@jamjar.agency neu ffoniwch 01446 771265

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon