Newyddion

Datgelu gweledigaeth sy’n werth £2 biliwn ar gyfer trafnidiaeth yng Nghaerdydd

Datgelu gweledigaeth sy’n werth £2 biliwn ar gyfer trafnidiaeth yng Nghaerdydd

17 Ionawr 2020

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu gweledigaeth y bwriedir iddi drawsnewid rhwydwaith trafnidiaeth Caerdydd a’r de-ddwyrain.

Mae Papur Gwyn Trafnidiaeth y Cyngor yn cyflwyno cynllun 10 mlynedd uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd traffig a gwella ansawdd yr aer yn y brifddinas.

Mae’n rhestru cyfres o brosiectau a allai chwyldroi’r opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghaerdydd a’r rhanbarth, sy’n cynnwys:

  • Darparu llwybrau cerdded a beicio mwy diogel
  • Cynnig opsiynau teithio go iawn y bwriedir iddynt annog pobl i gefnu ar eu ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Ehangu’r cynlluniau presennol ar gyfer y Metro er mwyn cyflwyno mwy o lwybrau a gorsafoedd tram/trên yng Nghaerdydd a’r rhanbarth
  • Cyflwyno gwasanaethau Bysiau Cludiant Cyflym a safleoedd Parcio a Theithio newydd
  • Lleihau’n sylweddol faint mae’n ei gostio i deithio ar fysiau
  • Er mwyn gwireddu’r weledigaeth bydd angen gweithio mewn partneriaeth â’r Llywodraeth, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill yn y rhanbarth, ond mae’r Cyngor wedi datgelu y gallai’r gost o £2 biliwn gael ei hariannu’n rhannol gan gynllun i godi tâl dyddiol ar ddefnyddwyr ffyrdd, y gallai preswylwyr Caerdydd gael eu heithrio ohono.


Meddai’r Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, "Cafodd rhwydwaith trafnidiaeth presennol Caerdydd ei gynllunio hanner canrif yn ôl ar gyfer dinas o 200,000 o bobl. Heddiw, o ystyried ymwelwyr â’r ddinas a’r sawl sy’n teithio yma i weithio a siopa, mae ei phoblogaeth o ddydd i ddydd yn hanner miliwn bron iawn. ’Does dim rhyfedd bod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn gwegian - nid yw mwyach yn addas i’w ddiben.

"O ystyried y sefyllfa o safbwynt un o breswylwyr cyffredin Caerdydd sy’n gyrru o fewn y ddinas i’r gwaith bob dydd, ac sy’n brwydro am damaid o le ar y ffyrdd gyda’r 80,000 o bobl eraill sy’n gyrru o du allan i ffiniau’r ddinas i'r gwaith, does dim dwywaith nad yw tagfeydd traffig, llygredd traffig a system trafnidiaeth gyhoeddus sy’n ei chael yn anodd gwasanaethu’n ddigonol y sawl sy’n byw ac yn gweithio yma yn faterion sy’n achosi gofid mawr - ac mae hynny’n gywir ddigon.

Yn ôl y Cyngor, gallai’r cynllun cywir wneud pedwar peth ar yr un pryd ac ar unwaith:

  • Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
  • Lleihau tagfeydd traffig
  • Gwella ansawdd yr aer
  • Darparu cyllid sydd wedi’i neilltuo ar gyfer buddsoddiad y mae ei angen yn fawr mewn mentrau trafnidiaeth gyhoeddus.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild, "Un opsiwn fyddai cyflwyno system syml, gyffredinol sy’n codi £2 ar bobl nad ydynt yn byw yng Nghaerdydd ond sy’n gyrru i mewn i’r ddinas; gallai hynny leihau tagfeydd a chodi arian ar yr un pryd i helpu i dalu am welliannau i’n rhwydwaith trafnidiaeth. Mae angen i ni gael pobl i gefnu ar eu ceir a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. I wneud hynny, mae angen i ni roi’r opsiynau gorau posibl iddynt o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Ac i wneud hynny, mae angen i ni godi arian i dalu amdanynt.

"Yn rhan o broses gadarn ar gyfer gwneud penderfyniadau, byddwn yn ystyried nifer o opsiynau. Byddai’r opsiwn a gaiff ei ffafrio gennym yn cynnwys eithrio preswylwyr Caerdydd o unrhyw dâl a godir, ac rydym yn gofyn i chi ystyried yn llawn y cynigion uchelgeisiol a geir yn y ddogfen hon.

"Nid codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yw’r unig opsiwn ar gyfer codi arian, a byddwn yn edrych ar opsiynau eraill mewn achos busnes yr wyf yn argymell y dylem ymgymryd ag ef dros y flwyddyn nesaf. Ni fydd system codi tâl yn cael ei rhoi ar waith nes y bydd yr achos busnes hwnnw wedi’i gwblhau a bod yr holl opsiynau wedi’u hadolygu, gan gynnwys ardoll bosibl ar leoedd parcio ynghyd â pharthau lle codir taliadau atal tagfeydd. Mae’n bwysig iawn nodi ein bod hefyd yn cydnabod y byddai angen i nifer fawr o ymyriadau fod ar waith i ddarparu opsiynau teithio amgen i bobl cyn y gellid cyflwyno system codi tâl, ac rydym wedi amlinellu rhai o’r rheini yn y Papur Gwyn ei hun."

Amcangyfrifir bod cost cyflawni’r rhaglen uchelgeisiol a gyflwynir yn y Papur Gwyn yn £2 biliwn – mae hynny’n cynnwys safleoedd parcio a theithio newydd, llinellau a gorsafoedd trên/tram newydd, llwybrau bws cyflym a llwybrau beicio ar wahân. Byddai unrhyw incwm a gynhyrchir o gynllun codi tâl yn cael ei neilltuo er mwyn helpu i gyflawni’r prosiectau.

 

Meddai Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, "Os ydym o ddifrif ynghylch gwella ansawdd yr aer, cael pobl i wneud mwy o ymarfer corff, a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen camau gweithredu uchelgeisiol. Dyna’n union y mae’r Papur Gwyn hwn yn ei gynnig, ac rydym yn cefnogi’n llwyr yr uchelgais a geir ynddo i gynyddu nifer y bobl sy’n cerdded ac yn beicio yng Nghaerdydd, darparu gwelliannau mawr i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn y ddinas a lleihau llygredd aer niweidiol. Bydd y camau gweithredu hyn yn cyfrannu at welliannau mawr o ran iechyd yn y tymor byr a’r tymor hir i breswylwyr Caerdydd ac ymwelwyr â’r ddinas, ac i genedlaethau’r dyfodol, ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a’i bartneriaid wrth i’r cynlluniau fynd rhagddynt."

Meddai Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, "Rwy’n falch o weld bod Cyngor Caerdydd yn ystyried yr hirdymor wrth feddwl a chynllunio, a’i fod yn creu strategaeth drafnidiaeth sy’n ceisio gwella iechyd a lles pobl a bywyd gwyllt yng Nghymru. Mae creu seilwaith trafnidiaeth integredig a charbon isel, buddsoddi mewn teithio llesol, a nodi tueddiadau’r dyfodol o ran twf ym mhoblogaeth y ddinas a’r dechnoleg newydd a fydd ar gael ar gyfer symud o gwmpas y ddinas yn enghreifftiau o’r union bethau y mae angen i’n dinasoedd fod yn eu gwneud er budd cenedlaethau’r dyfodol. 

"Rwy’n disgwyl gweld cyrff cyhoeddus eraill yn symud i’r un cyfeiriad â Chyngor Caerdydd ac yn gweithio i gyflawni eu dyletswyddau dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol." 

 

Teithio llesol:

Mae’r Papur Gwyn yn tynnu sylw at y ffaith mai beicio a cherdded yw’r ffyrdd mwyaf gwyrdd ac iach o deithio; maent yn cynhyrchu llai o lygredd ac yn ein helpu i gadw’n heini. Mae teithio llesol yn gallu gwella perfformiad plant yn yr ysgol hyd yn oed. Ar hyn o bryd, mae’r rhwydwaith teithiol llesol o lwybrau beicio a cherdded diogel, deniadol a hwylus yn dameidiog ac yn anghyflawn.

Mae’r Papur Gwyn yn egluro sut y bydd y Cyngor yn creu rhwydwaith beicio o safon erbyn 2026, sydd ar wahân yn gyfan gwbl i’r ffyrdd. Bydd hynny’n cynnwys llwybr beicio cylchol o amgylch canol y ddinas, a fydd yn cysylltu â phob un o’r chwe ffordd feiciau a fydd yn cael eu hadeiladu trwy nifer o ardaloedd ar draws y ddinas.

Caiff y cynllun llogi beiciau nextbike ei ehangu i o leiaf 2000 o feiciau, a bydd cyfleoedd yn cael eu cyflwyno i ddefnyddio nextbike yn rhanbarthol er mwyn rhoi cyfle i fwy o bobl ymuno â’r cynllun.

Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno’r fenter ‘Strydoedd dros Iechyd’ fel bod strydoedd yn cael eu hadfer yn fannau cyhoeddus iach i’r cyhoedd eu mwynhau.

Caiff cynlluniau teithio llesol eu lansio mewn ysgolion ar draws y ddinas i hybu cerdded neu ddefnyddio sgwteri neu feiciau, ac 20 milltir yr awr fydd y cyfyngiad cyflymder arferol ar ffyrdd Caerdydd.

 

Defnyddio’r car yn y dyfodol:

Bydd y Cyngor yn cynyddu’n sylweddol nifer y mannau gwefru sydd ar gael ar gyfer ceir trydan ledled Caerdydd erbyn 2025 er mwyn annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan. Erbyn 2025, bydd holl gerbydau fflyd y Cyngor yn rhai trydan neu’n gerbydau sy’n gallu bod heb allyriadau.

Bydd Clybiau Ceir sy’n cynnig modd i aelodau gael gafael ar gerbydau 24 awr y dydd yn cael eu hehangu er mwyn lleihau’r angen i breswylwyr fod yn berchen ar eu car eu hunain.

Caiff seilwaith ei wella er mwyn cynorthwyo’r rhanbarth ehangach, ac meddai’r Cynghorydd Wild wedyn, "Rydym am roi’r cyfle i bawb ailystyried sut y maent yn teithio i Gaerdydd i weithio neu am resymau eraill, ac rydym eisoes yn gweld pobl yn dechrau cefnu ar eu ceir.

"Yn awr, mae angen i ni gyflymu’r newid hwn mewn ymddygiad. Mae angen i ni annog pobl i feddwl am opsiynau teithio amgen, eu cael i gefnu ar eu ceir neu ystyried rhannu car.”

 

Gallwch weld y Papur Gwyn llawn yma.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Road Safety Wales 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon