Newyddion

Y depo gwerth £100 miliwn a fydd yn ganolog i elfen reilffyrdd Metro De Cymru

Y depo gwerth £100 miliwn a fydd yn ganolog i elfen reilffyrdd Metro De Cymru

20 Ionawr 2020

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddepo gwerth £100 miliwn a fydd yn ganolog i elfen reilffyrdd Metro De Cymru ac a fydd yn gartref i dros 500 o staff.

Bydd y depo ar Ystâd Ddiwydiannol Garth Works yn Ffynnon Taf yn ganolfan i 400 o griw trenau, 35 o staff cynnal a chadw trenau a 52 o staff y ganolfan reoli.

Mae’r depo wedi’i fwriadu ar gyfer trenau tram, a bydd lle i barcio 36 ohonynt yno. Mae disgwyl y bydd y trenau’n dechrau cael eu defnyddio ddiwedd 2022, a byddant yn gweithredu ar Reilffyrdd Aberdâr a Merthyr.

Bydd trenau tri-modd a fydd yn gallu gweithredu ar ddiesel, trydan a batri yn teithio ar Reilffordd Rhymni. Dechreuodd y gwaith galluogi ar ddepo Ffynnon Taf yn ystod yr haf, cyn y gwaith adeiladu. 

Bydd seremoni’n cael ei chynnal heddiw i dorri’r dywarchen gyntaf.

Mae’r depo yn elfen allweddol o brosiect trydaneiddio Prif Reilffyrdd y Cymoedd a Rheilffordd Coryton, y mae’r gyllideb ar ei gyfer yn £738 miliwn. Fodd bynnag, er mwyn i waith ffisegol ddechrau ar brosiect trydaneiddio oddeutu 170 cilomedr o reilffordd, mae angen o hyd i Lywodraeth y DU drosglwyddo’r ased rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru.

Caiff y gwaith trydaneiddio ei gyflawni gan KeolisAmey, sydd hefyd yn ddeiliad masnachfraint Cymru a’r Gororau ar ran Trafnidiaeth Cymru, sy’n gorff hyd braich i Lywodraeth Cymru.

Mae gwaith y fasnachfraint a’r gwaith trydaneiddio’n cael eu cyflawni dan frand Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru.

Wrth drafod trosglwyddo asedau, meddai llefarydd ar ran Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU: "Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ar drosglwyddo Prif Reilffyrdd y Cymoedd, ac mae disgwyl y byddwn yn eu trosglwyddo, fel y cytunwyd, ar 31 Mawrth 2020 neu cyn hynny."

Meddai Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wrth sôn am y ffaith bod gwaith yn dechrau ar y depo: “Mae hwn yn ddatblygiad arall o bwys yng nghynlluniau Trafnidiaeth Cymru i wireddu Metro De Cymru ar gyfer pobl y de-ddwyrain.

"Ddechrau’r mis agorwyd Canolfan Seilwaith Metro De Cymru yn Nhrefforest, ymhellach i fyny’r cwm. Bydd y ganolfan honno’n allweddol i’r gwaith trawsnewid, ac yma heddiw rydym yn nodi dechrau’r gwaith o adeiladu depo newydd y bydd y Metro’n cael ei weithredu ohono.

“Mae Metro De Cymru yn fuddsoddiad gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd, ac mae’r depo hwn sy’n werth £100 miliwn yn elfen bwysig o hynny. Bydd yn gartref i gerbydau newydd sbon y Metro, a dyma lle byddant yn cael gwasanaeth ac yn cael eu cynnal a’u cadw. Bydd y depo yn gartref hefyd i’r ganolfan reoli a fydd yn goruchwylio’r gwaith gweithredu.

“Mae trafnidiaeth yn cael ei thrawsnewid yng Nghymru, ac mae’n wych gweld mwy o enghreifftiau go iawn o gynnydd.”

Meddai Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price: “Bydd Metro De Cymru yn chwyldroi trafnidiaeth i gymunedau lleol ac yn cynnig teithiau cynt, mwy o le ar gerbydau, gwasanaethau amlach a mwy dibynadwy, a thrafnidiaeth gyhoeddus sy’n fwy fforddiadwy.

“Mae’r seremoni i dorri’r dywarchen gyntaf yn arwydd pellach ein bod yn gwireddu ein haddewidion. Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd Metro De Cymru yn gweithredu o’r depo hwn a bydd oddeutu 500 o staff yn gweithio yma.

“Mae’n adeg gyffrous iawn i drafnidiaeth yng Nghymru, ac mae’n wych bod ein cwsmeriaid a phobl Cymru yn dechrau gweld cynnydd ar lawr gwlad.”

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Business Live

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon