Newyddion

Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru wedi’i henwebu ar gyfer gwobr o fri i fenywod

Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru wedi’i henwebu ar gyfer gwobr o fri i fenywod

02 Mawrth 2020

Mae Jo Foxall yn un o’r menywod sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori ‘Rheolwr Gyfarwyddwr y Flwyddyn’ ar gyfer y seremoni wobrwyo a gynhelir yng Ngwesty’r Gyfnewidfa Lo ym mis Mawrth.

 

Bwriad y gwobrau, a gyflwynir am yr ail flwyddyn, yw dathlu llwyddiant menywod ymroddgar a brwdfrydig sy’n gweithio mewn amryw sectorau ledled Cymru, a chydnabod eu cyflawniadau a’u gwaith parhaus.

Mae menywod o ystod o wahanol sectorau ymhlith y rhai a fydd yn cael eu hanrhydeddu ar y noson, ac maent yn cynnwys menywod sy’n entrepreneuriaid, menywod busnes, gweithwyr proffesiynol, gweision sifil, gweithwyr elusennol a llawer mwy.

Wrth gyfeirio at ei henwebiad, dywedodd Ms Foxall ei bod yn anrhydedd cael ei chydnabod ochr yn ochr â menywod sy’n gymaint o ysbrydoliaeth.

 

Meddai: “Rwy’n falch dros ben o fod wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Menywod Cymru eleni.

“Mae’r gwobrau hyn yn crynhoi popeth sy’n rhagorol ac yn ysbrydoledig am fenywod sy’n gweithio ledled Cymru, felly rwyf wrth fy modd o gael fy nghydnabod yn rhan o’r digwyddiad.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r menywod eraill sydd wedi’u henwebu ac rwy’n edrych ymlaen at fynychu’r digwyddiad ym mis Mawrth.”

 

Yr enwebiad hwn yw’r gamp ddiweddaraf mewn blwyddyn lwyddiannus i Ms Foxall a Traveline Cymru, yn dilyn llwyddiannau yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru a Gwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn Cymru gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr.

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Gemma Gwilym yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio gemma@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon