Newyddion

Aelod o fwrdd Traveline Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Womenspire

Aelod o fwrdd Traveline Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Womenspire

30 Ebrill 2020

Mae aelod o fwrdd Traveline Cymru wedi cael cydnabyddiaeth gan yr elusen cydraddoldeb rhywiol, Chwarae Teg, am ei ‘chyflawniadau nodedig’.

Mae Dr Victoria Winckler wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Womenspire, yn y categori ar gyfer aelodau bwrdd.

Nod Gwobrau Womenspire, a gaiff eu cyflwyno gan Chwarae Teg, yw dathlu cyflawniadau menywod Cymru ym mhob agwedd ar fywyd.

Nid yw menywod yn cael eu cynrychioli’n ddigonol o hyd ar fyrddau ledled Cymru, ac mae Victoria wedi cyrraedd y rhestr fer gyda thair menyw arall sydd wedi’u cydnabod oherwydd y dylanwad pellgyrhaeddol y maent wedi’i gael ar eu sefydliadau.

Mae Victoria, sydd hefyd yn un o gyfarwyddwyr Sefydliad Bevan, wedi bod yn aelod o fwrdd Traveline Cymru ers 6 blynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae wedi defnyddio ei gwybodaeth helaeth am effaith anghydraddoldebau cymdeithasol i gynnig cyngor ynghylch gwella gwasanaeth Traveline Cymru, gan sicrhau bod cynwysoldeb yn elfen greiddiol ohono.

 

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, Jo Foxall: “Mae Victoria yn llawn haeddu cael ei henwebu, oherwydd mae wedi ymroi drwy gydol ei gyrfa i wella safon byw rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. 

“Mae’n eiriolwr brwd dros gydraddoldeb i’r sawl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n brwydro bob amser i wneud gwasanaethau’n fwy cynhwysol ar gyfer pobl sy’n wynebu tlodi ac amddifadedd economaidd. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn nhrefniadaeth y cwmni ac yn y gwaith o ddatblygu ein gwasanaethau a chynorthwyo ein tîm. Rydym yn hynod falch o’i chyflawniadau ac yn ddiolchgar iddi am ei chymorth.”

 

Meddai Victoria: “Rwyf wrth fy modd o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Womenspire. Rwy’n gweithio gyda chynifer o fenywod ymroddedig, disglair a deallus yn Traveline Cymru ac yn Sefydliad Bevan, ac mae’n wych bod cyflawniadau menywod ledled Cymru yn cael eu cydnabod.

“Mae fy ngwaith yn fy ngalluogi i fynd i’r afael â phroblemau ledled Cymru, megis problemau’n ymwneud â thlodi, y farchnad lafur, adfywio a chydraddoldeb, ac mae gweld y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud i fywydau pobl yn brofiad anhygoel.

“Mae’r gwobrau hyn yn ymgorffori popeth sy’n glodwiw ac yn ysbrydoledig am fenywod sy’n gweithio ledled Cymru, felly rwyf wrth fy modd o fod wedi cael fy nghydnabod yn rhan o hynny.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i’r menywod eraill sydd wedi’u henwebu, ac rwy’n edrych ymlaen at fynychu’r seremoni wobrwyo yn nes ymlaen eleni.”

 

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.  

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu ag Elle Holley ar 01446 771265 neu elle@jamjar.agency

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon