Newyddion

Stagecoach yn Ne Cymru yn dathlu pen-blwydd y Capten Thomas Moore yn 100 oed drwy roi teyrnged iddo fe, y GIG a gweithwyr allweddol

Stagecoach yn Ne Cymru yn dathlu pen-blwydd y Capten Thomas Moore yn 100 oed drwy roi teyrnged iddo fe, y GIG a gweithwyr allweddol

30 Ebrill 2020

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi rhoi neges ‘Pen-blwydd Hapus Capten Tom’ a’r rhif gwasanaeth 100 ar flaen ei fysiau yn nepo Merthyr Tudful yn lle’r neges ‘dim gwasanaeth’.

Bydd y Capten Thomas Moore yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed yfory ar 30 Ebrill 2020 ac mae wedi codi dros £29 miliwn i’r GIG. Er mwyn nodi’r achlysur ymhellach, bydd tri o fysiau Stagecoach yn gyrru i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tydfil am 8pm i ymuno â’r genedl i glapio ac i arddangos y cyfarchiad pen-blwydd ochr yn ochr â negeseuon o ddiolch i’r GIG a gweithwyr allweddol.

Mae Stagecoach yn Ne Cymru eisoes wedi newid ei negeseuon ‘dim gwasanaeth’ i’r negeseuon canlynol:

  • Arbedwch fywydau
  • Arhoswch gartref
  • Peidiwch â theithio os nad oes raid
  • Diolch i weithwyr allweddol
  • Diolch i’r GIG

Gall staff y GIG deithio am ddim ar bob un o wasanaethau Stagecoach yn Ne Cymru.

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym am longyfarch Capten Tom ar yr holl arian y mae wedi’i godi i’r GIG ac am ddymuno pen-blwydd hapus iawn iddo yn 100 oed. Diolch o galon i holl weithwyr y GIG ac i ofalwyr a gweithwyr allweddol, gan gynnwys ein staff ni yn Stagecoach, am y gwaith arwrol y maent yn ei wneud bob dydd yn ystod y pandemig.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon