Newyddion

Traveline Cymru yn dathlu canlyniadau “neilltuol” am wasanaeth i’w gwsmeriaid

Traveline Cymru yn dathlu canlyniadau “neilltuol” am wasanaeth i’w gwsmeriaid

18 Mai 2020

Yn ôl adroddiad diweddaraf Traveline Cymru mae lefelau bodlonrwydd ymhlith teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus, sy’n defnyddio cyfres Traveline Cymru o wasanaethau gwybodaeth, wedi cyrraedd 94% oherwydd parodrwydd y staff i helpu a’r ffaith bod y cyfleusterau’n hawdd eu defnyddio.

Mae’r ymchwil, a gyflawnwyd gan y sefydliad annibynnol Finger on the Pulse, yn dangos bod cwsmeriaid yn ystod y 12 mis diwethaf yn parchu ac yn gwerthfawrogi’r ffaith bod Traveline Cymru yn wasanaeth hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio.

Roedd adborth gan gwsmeriaid yn awgrymu bod parodrwydd y staff i helpu, cywirdeb y wybodaeth a’r ffaith bod y cyfleusterau’n hawdd eu defnyddio ymhlith y rhesymau pam yr oedd defnyddwyr mor fodlon â’r gwasanaeth dwyieithog.

Canfu’r ymchwil mai 80% oedd lefel gyffredinol bodlonrwydd â gwefan y darparwr gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus a bod defnyddwyr yn fwy tebygol o fynd i’r wefan ar eu ffôn symudol.

At hynny llwyddodd gwasanaeth ei rif rhadffôn, a reolir gan ei ganolfan gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth, i gael sgôr gyffredinol ragorol o 94% ar gyfer bodlonrwydd. Roedd y prif resymau a nodwyd gan ymatebwyr i’r arolwg dros lwyddiant y gwasanaeth hwnnw’n cynnwys parodrwydd y staff i helpu a gallu’r gwasanaeth i roi gwybodaeth yn effeithlon i gwsmeriaid.

Dangosodd yr ymchwil fod effeithiolrwydd y gwasanaeth yn golygu mai nifer fach yn unig o gwsmeriaid oedd yn gallu awgrymu gwelliannau iddo.

Mae’r canlyniadau cadarnhaol yn dilyn blwyddyn ragorol i wasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus a’r corff ymbarél PTI Cymru, ar ôl iddynt ennill y Wobr Gwasanaethau i’r Diwydiant Trafnidiaeth yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru 2019. Maent hefyd wedi ennill dau gontract newydd i’r ganolfan gyswllt, gyda’r gwasanaeth Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol a menter ‘Rheilffordd i Loches’ y Grŵp Cyflawni Rheilffyrdd, ar ôl addasu eu busnes yn sydyn er mwyn galluogi eu staff i weithio gartref yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Rydym yn falch iawn o fod wedi cynnal lefel eithriadol o uchel o fodlonrwydd ymhlith ein cwsmeriaid eleni gyda’r canlyniadau neilltuol hyn. Mae aelodau ymroddgar ein tîm yn gweithio’n galed i roi blaenoriaeth i fodlonrwydd cwsmeriaid ac maent yn falch dros ben bod eu llwyddiant yn parhau.

“Er bod ein sgorau eleni’n uchel yn gyffredinol, rydym yn awyddus i ystyried sylwadau sy’n tynnu ein sylw at gyfleoedd i wella ein gwasanaethau, fel y gallwn barhau i gynnig y gwasanaeth o safon eithriadol y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl yn awr.”

 

Mae Traveline Cymru yn gwmni dielw sy’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad. Mae’r cwmni yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Caiff ei wasanaethau eu darparu trwy gyfrwng gwefan ddwyieithog, gwasanaeth rhadffôn, ap a gwasanaeth negeseuon testun, a chyfryngau cymdeithasol.  

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Gemma Gwilym yn jamjar gemma@jamjar.agency neu ffonio 01446 771265

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon