Newyddion

 Ymgyrch 'Teithio Mwy Diogel' Trafnidiaeth Cymru

Ymgyrch 'Teithio Mwy Diogel' Trafnidiaeth Cymru

05 Mehefin 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi llunio 5 egwyddor allweddol yn ei ymgyrch ‘Teithio’n Saffach’ er mwyn cynghori teithwyr ynghylch y ffordd orau o gadw’n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae’r ymgyrch yn cyd-fynd â neges Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, sef y dylai pobl geisio ‘Diogelu Cymru’ ac aros yn lleol.

Mae pobl yn cael eu cynghori o hyd i beidio â theithio oni bai bod yn rhaid iddynt wneud hynny er mwyn gweithio neu wneud taith hanfodol, er enghraifft i brynu bwyd neu gasglu cyflenwadau meddygol.

At hynny, mae Trafnidiaeth Cymru wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol yn unol â chanllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am ddefnyddio gwasanaethau bws a thrên, dulliau llesol o deithio, mesurau diogelwch a gwybodaeth ddefnyddiol arall. Mae’r rhestr i’w gweld yma.

I ddarllen am ymgyrch ‘Teithio’n Saffach’ Trafnidiaeth Cymru a chael gwybodaeth am ganllawiau Trafnidiaeth Cymru, cliciwch yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon