Newyddion

Traveline Cymru yn noddi Gwobrau Trafnidiaeth Cymru 2020

Traveline Cymru yn noddi Gwobrau Trafnidiaeth Cymru 2020

10 Mehefin 2020

Mae Traveline Cymru yn falch o allu cefnogi Gwobrau Trafnidiaeth Cymru eleni a rhoi sylw i’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws y sector trafnidiaeth yng Nghymru.

Mae gwasanaeth gwybodaeth Llywodraeth Cymru am drafnidiaeth gyhoeddus ymhlith y busnesau blaenllaw sy’n noddi’r gwobrau yn y digwyddiad blynyddol a gaiff ei gynnal am yr ail dro ac y disgwylir iddo fynd yn ei flaen ar 9 Hydref.

Bydd y digwyddiad a gynhelir yng Ngwesty Holland House Mercure yng Nghaerdydd yn dathlu llwyddiannau busnesau ac unigolion o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd ym maes trafnidiaeth ledled Cymru.

Bydd y sawl a gaiff eu henwebu’n cael eu cydnabod ar draws 16 o gategorïau a fydd yn cynnwys Gofal Cwsmer, Rhagoriaeth ym maes Technoleg, Fflyd y Flwyddyn, a Busnesau sy’n Rhagori ar Fod yn Garedig i’r Amgylchedd.

Eleni bydd Traveline Cymru, sy’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bws a thrên y wlad, yn noddi’r Wobr Gwasanaethau i’r Diwydiant Trafnidiaeth.

Cafodd y wobr, sy’n cydnabod unigolyn neu sefydliad sydd wedi darparu gwasanaethau ardderchog yn gyson i’r sector trafnidiaeth, ei chyflwyno i Traveline Cymru yn 2019.

Cafodd y gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth, a oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed eleni, ei gydnabod ar ôl iddo helpu cwsmeriaid ar-lein i gynllunio dros wyth miliwn o deithiau ledled Cymru ers 2012; ar ôl iddo ddarparu dros 5.1 miliwn o ddarnau o wybodaeth am drafnidiaeth yn 2019; ac ar ôl iddo weld ei ap yn cael ei ddefnyddio dros 1.5 miliwn o weithiau yn 2019 yn unig.

At hynny mae gan y darparwr gwybodaeth, sy’n gwmni dielw, ganolfan gyswllt yn y gogledd a lwyddodd i ymdrin â thros 93,000 o alwadau yn 2019 ac a enillodd sgôr o 94% eleni am fodlonrwydd ei chwsmeriaid.

Wrth sôn am y ffaith bod Traveline Cymru yn noddi’r wobr eleni dywedodd Jo Foxall, y Rheolwr Gyfarwyddwr, ei bod yn bleser “yn awr yn fwy nag erioed” gallu rhoi sylw i waith neilltuol y sawl sy’n gwneud mwy na’r disgwyl yn y sector trafnidiaeth.

Meddai: “Mae COVID-19 wedi achosi straen ariannol, problemau logistaidd a phroblemau iechyd a diogelwch i’r diwydiant trafnidiaeth, na welwyd eu tebyg o’r blaen.

“Rydym yn falch o fod yn noddi’r categori Gwasanaethau i’r Diwydiant Trafnidiaeth eleni ac o allu rhoi sylw i’r arwyr tawel sy’n gwneud mwy na’r disgwyl bob dydd.

“Yn awr yn fwy nag erioed, mae’n hollbwysig cydnabod y cyfraniad y mae busnesau trafnidiaeth yn ei wneud wrth iddynt barhau i ddarparu dulliau diogel a hanfodol o deithio mewn amgylchiadau anodd.

“Mae miloedd o yrwyr, glanhawyr, peirianwyr, gweithwyr canolfannau cyswllt a llawer o bobl eraill wedi bod yn gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig hwn i sicrhau eu bod wrth law i helpu teithwyr ar yr adegau mwyaf tyngedfennol.

“Hoffem ddiolch i Wobrau Trafnidiaeth Cymru am barhau i gydnabod y gweithwyr anhygoel hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau gwych yn nes ymlaen eleni.”

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau ar gyfer Gwobrau Trafnidiaeth Cymru yw 19 Mehefin. Os hoffech enwebu rhywun, ewch i https://www.walestransportawards.co.uk/awards/2020/enter

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon