Newyddion

Trenau trydan yn teithio o Lundain i Gaerdydd am y tro cyntaf

Trenau trydan yn teithio o Lundain i Gaerdydd am y tro cyntaf

12 Mehefin 2020

Mae Network Rail wedi gorffen y gwaith o uwchraddio Twnnel Hafren, a bellach gall teithwyr deithio ar reilffordd drydan bob cam o Gaerdydd a Chasnewydd, drwy Dwnnel Hafren ac ymlaen i Fryste a Swindon, Dyffryn Tafwys a Gorsaf Paddington, Llundain.

Mae’r gwaith o uwchraddio’r twnnel wedi bod ar y gweill ers degawd ac mae wedi golygu buddsoddi £5.58 biliwn mewn cerbydau a seilwaith. Mae’r gwaith trydaneiddio diweddar yn golygu bod teithiau rhwng de Cymru a Llundain 14 munud yn gynt ar gyfartaledd, bod 15,000 yn fwy o seddi ar gael yn ystod yr wythnos a bod y teithiau’n fwy caredig i’r amgylchedd ar gyfer y sawl sy’n teithio o’r de neu i’r de ar drenau Intercity Express GWR.

Mae Network Rail wedi cynhyrchu fideo byr ynghylch y prosiect yma.

I gael gwybod mwy am y prosiect, cliciwch yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon