Newyddion

Gweledigaeth Transform Cymru ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy i Gymru ar ôl llacio’r cyfyngiadau symud

Gweledigaeth Transform Cymru ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy i Gymru ar ôl llacio’r cyfyngiadau symud

25 Mehefin 2020

Mae’r coronafeirws wedi newid y modd y mae pobl yn ymddwyn. Mae’r cyfyngiadau symud yn golygu bod pobl wedi gorfod newid y modd y maent yn byw o ddydd i ddydd, ac yn golygu mai dim ond er mwyn prynu nwyddau hanfodol y maent yn gadael eu cartrefi.

Er bod y newid hwn wedi bod yn ergyd ofnadwy i’r sector trafnidiaeth gyhoeddus, mae Transform Cymru yn ei weld yn gyfle i ad-drefnu pethau.

Mae’n cydnabod bod yr argyfwng presennol yn creu rhai rhwystrau i’r diwydiant ond mae hefyd o’r farn ei fod yn cynnig cyfle i hyrwyddo dulliau newydd o deithio ac i newid y modd y mae pobl yn teithio, er lles y dyfodol.

Mae Transform Cymru yn hybu gweledigaeth gynhwysol lle caiff cymunedau ledled Cymru eu cysylltu â’i gilydd gan rwydwaith trafnidiaeth sy’n gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn ddiogel ac sy’n diwallu anghenion teithwyr o bob oed, cefndir a gallu.

Fel cynghrair, mae Transform Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol i wireddu’r weledigaeth ar gyfer pobl Cymru.

Er mwyn cyflawni’r weledigaeth, mae Transform Cymru yn gofyn i awdurdodau lleol gymryd 7 cam:

  • Annog pobl i aros yn lleol
  • Darparu mwy o le i bobl gerdded a beicio
  • Ailfeithrin hyder teithwyr mewn trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cefnogi atebion arloesol ym maes trafnidiaeth
  • Sicrhau mynediad o’r dechrau’n deg
  • Gweithio gyda chymunedau i ddatblygu atebion.

Mae’r aelodau presennol yn cynnwys Bus Users, Beicio Cymru, y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol a ninnau yn Traveline Cymru.

 

Am gael gwybod mwy?

Ewch i https://transformcymru.org/ ac i’r adran gyhoeddiadau er mwyn darllen y weledigaeth ar gyfer 2020. 

 

Sut gallwch gefnogi?

Gallwch helpu drwy ddilyn @CymruTransform a rhannu ei negeseuon.

 

Oes gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o Transform Cymru?

Anfonwch ebost i sustranscymru@sustrans.org.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon