Newyddion

Cynllun Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw cyntaf Caerdydd yn dechrau ar 29 Mehefin

Cynllun Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw cyntaf Caerdydd yn dechrau ar 29 Mehefin

26 Mehefin 2020

Bydd Caerdydd yn treialu ei gynllun Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw cyntaf erioed lle bydd teithwyr yn gallu archebu teithiau bws, o bell, a lle bydd amserlenni’n cael eu haddasu’n ôl y galw.

fflecsi G1 yw’r gwasanaeth newydd sbon a fydd yn cael ei weithredu gan NAT Group mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru.

Bydd y gwasanaeth newydd yn disodli llwybr G1 presennol NAT Group, sy’n gweithredu rhwng Gabalfa a Gwaelod-y-garth drwy’r Eglwys Newydd, a bydd teithwyr yn gallu gofyn am gael eu casglu o arosfannau ar hyd y llwybr ar adeg o’u dewis nhw, drwy ddefnyddio’r ap i archebu ymlaen llaw neu drwy ffonio’r rhif cyswllt ar gyfer cwsmeriaid.

Bydd y cynllun peilot tri mis yn dechrau ddydd Llun 29 Mehefin ac yn disodli’r gwasanaeth bws blaenorol a oedd ag amserlen benodol.

Bydd llwybr G1 yn cael ei wasanaethu gan gerbyd â brand arbennig gan ddefnyddio’r logos ar gyfer fflecsi ac Adventure Travel, sef enw newydd NAT Group.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.natgroup.co.uk.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon