Newyddion

bus-capacity-checker-app-stagecoach

Stagecoach yn lansio dangosydd ‘Bysiau Prysur’ newydd ar gyfer ffonau clyfar er mwyn helpu cwsmeriaid i gynllunio teithiau

03 Gorffennaf 2020

  • Bydd yr ap yn defnyddio data a deallusrwydd artiffisial i helpu cwsmeriaid i gadw pellter cymdeithasol

  • Bydd dangosydd golau traffig yn ganllaw hwylus i wasanaethau tawelach ar rwydweithiau bysiau

  • Bydd yn rhan o ystod o fesurau diogelwch ychwanegol i helpu cwsmeriaid i allu teithio’n hyderus

Mae Stagecoach, gweithredwr bysiau mwyaf Prydain, yn lansio dangosydd “bysiau prysur” newydd ar gyfer ffonau clyfar er mwyn helpu cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau wrth i wasanaethau gynyddu o ran eu nifer ledled y DU.

Bydd y nodwedd newydd ar ap bysiau Stagecoach yn defnyddio llawer o ddata a deallusrwydd artiffisial i ddarparu dangosydd golau traffig er mwyn helpu cwsmeriaid i ddewis gwasanaethau tawelach a chadw pellter cymdeithasol.

Mae’r ap wrthi’n cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr dyfeisiau iOS ac Android. Bydd y ddyfais tracio “bysiau prysur” yn cael ei diweddaru’n rheolaidd a bydd yn dangos pa mor brysur yw gwasanaethau bws unigol mewn rhwydweithiau ar draws y DU.

Mae’n rhan o becyn cynhwysfawr o fesurau diogelwch sydd ar waith i helpu pobl i allu teithio’n hyderus wrth i’r economi ailagor ac wrth i fywyd arferol ailddechrau ar gyflymder gwahanol ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban.

Bydd pob gwasanaeth yn y map byw ar yr ap yn cael ei liwio ar sail cod lliwiau – bydd eicon bws gwyrdd ‘ddim yn rhy brysur’ yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bysiau tawelach, eicon ambr yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bysiau ‘eithaf prysur’ ac eicon ambr tywyll yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bysiau ‘prysur iawn’.

Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu gweld ble yn union mae eu bws nhw ar y map a phryd y bydd yn cyrraedd, sy’n golygu y bydd ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol ar flaenau eu bysedd.

Mae ap Stagecoach eisoes yn cynnwys dyfais fwyaf datblygedig y DU ar gyfer tracio bysiau mewn amser real, a bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn helpu pobl i gynllunio eu hamserau teithio’n hyderus ac yn hwylus. Y nodwedd newydd hon yw’r ychwanegiad diweddaraf at ystod eang o fesurau gan Stagecoach i helpu cwsmeriaid i ddefnyddio bysiau’n hyderus wrth i wasanaethau bws barhau i fod yn ddolen gyswllt hanfodol â lleoedd gwaith, siopau a chyfleusterau hamdden.

Mae trefiadau glanhau llym ar waith o hyd ar gyfer pob bws, sy’n cynnwys glanhau pob bws â hylif diheintio gwrthfeirysol o leiaf unwaith y dydd. At hynny, mae dulliau talu digyffwrdd ar gael ar bob bws ac mae cwsmeriaid yn gallu defnyddio tocynnau sydd ar eu ffonau symudol.

Meddai Carla Stockton-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro Stagecoach yn y DU: “Rydym yn falch o groesawu mwy o bobl yn ôl ar ein bysiau wrth i leoedd ddechrau ailagor o gwmpas y DU.

“Rydym eisoes wedi cyflwyno ystod o fesurau ychwanegol i wneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, ac mae’r mesurau hynny’n cynnwys trefniadau glanhau llym a mesurau cadw pellter cymdeithasol gan ein bod yn gwybod mai dyna yw’r prif flaenoriaethau i deithwyr. Mae lansio ein dangosydd ‘bysiau prysur’ newydd yn gam ychwanegol er mwyn rhoi canllaw hwylus i bobl a darlun sydyn iddynt o’r amserau gorau i deithio, a’u galluogi i gynllunio eu teithiau ac osgoi cyfnodau mwy prysur.

“Mae bysiau’n parhau i chwarae rhan hollbwysig o safbwynt cysylltu pobl â lleoedd gwaith a chyfleusterau hamdden. Ar adeg pan fo pobl ledled y DU yn dechrau ailgwrdd â’u ffrindiau a’u teuluoedd, bydd y buddsoddiad hwn mewn technoleg newydd yn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu bod yn hollol barod ac yn hollol hyderus wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.”

Mae ap Stagecoach ar gael ar blatfformau iOS ac Android UK Bus. I gael rhagor o wybodaeth am Stagecoach, ewch i stagecoachbus.com/coronavirus.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon