Newyddion

south-wales-metro-railway-works-transport-for-wales

Dechrau ar waith hanfodol i drawsnewid rheilffyrdd ar gyfer rhwydwaith newydd Metro De Cymru

19 Gorffennaf 2020

  • Bydd y Metro yn dod â swyddi newydd ynghyd â chyfleoedd busnes ac addysg a chyfleoedd eraill i ardal de Cymru.
  • Mae’r gwaith hwn yn rhan o fuddsoddiad gwerth tri chwarter biliwn o bunnoedd yn y Metro, sy’n cynnwys £164 miliwn o gyllid o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio’n agos â chymunedau a busnesau lleol i archwilio ffyrdd o sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl arnynt. 

Yn gynharach eleni, cwblhaodd Trafnidiaeth Cymru y broses o drosglwyddo i’w berchnogaeth asedau rheilffyrdd (a elwir yn lleol yn Llinellau Craidd y Cymoedd) a oedd cyn hynny’n eiddo i Network Rail. Roedd y cam hwn i uno’r gweithredwr trenau â’r sawl sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r asedau rheilffyrdd yn fodd i greu dull gweithredu cydlynus ar gyfer y Metro, yn unol ag uchelgais Llywodraeth Cymru, sef gweld Trafnidiaeth Cymru yn berchen ar rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Cymru neu’n ei weithredu yn uniongyrchol. 

O 3 Awst ymlaen bydd Trafnidiaeth Cymru yn dechrau adeiladu Metro De Cymru. Bydd hynny’n golygu gwaith mawr ar y seilwaith, a fydd yn cynnwys trydaneiddio dros 170 cilomedr o gledrau drwy linellau uwchben yn bennaf, uwchraddio gorsafoedd a signalau ac adeiladu o leiaf pum gorsaf newydd.  

 

Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru:

“Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i wireddu Metro De Cymru, ac erbyn hyn rydym wedi bwrw ymlaen â mwy o waith trawsnewid. 

“Rydym yn deall effaith Covid-19 ond byddwn yn dilyn yr holl gyngor perthnasol gan Lywodraeth Cymru ynghylch diogelwch wrth i ni symud ein rhaglen fuddsoddi yn ei blaen.”

Wrth esbonio’r gwaith datblygu sylweddol sydd ar droed, meddai James:

“Mae hwn yn brosiect na fyddwn yn gweld ei debyg eto yn ein hoes ni, a thrwy adeiladu Metro De Cymru rydym yn gobeithio helpu i adfywio economi Cymru, yn enwedig wrth i ni ddechrau ar y cyfnod adfer wedi Covid-19. Mae gennym waith mawr i’w wneud ar y seilwaith yn awr er mwyn gwella ein rhwydwaith rheilffyrdd, y cafodd llawer ohono ei adeiladu yn ystod oes Fictoria, a’i gael yn barod ar gyfer ein gwasanaeth trên newydd a fydd yn gyflymach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy mynych.  

“Rydym yn gobeithio y bydd y cyfleoedd y bydd Metro De Cymru yn eu cynnig yn cyffroi pobl y de a’n cymdogion sy’n byw ger ein rheilffyrdd. Er bod gennym lawer o waith i’w wneud, rwyf hefyd am sicrhau’r bobl hynny y byddwn yn gwneud popeth posibl i wneud yn siŵr bod ein gwaith yn tarfu cyn lleied ag sy’n bosibl arnynt ac y byddwn yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn rheolaidd â nhw wrth i’r gwaith fynd rhagddo.”   

 

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

“Mae’n wych gweld y gwaith go iawn yn dechrau i wireddu’r cynllun uchelgeisiol hwn. Bydd y ffaith ei bod yn haws i bobl deithio yn y dyfodol yn sicrhau cysylltiadau gwell rhwng cymunedau ac yn cynyddu mynediad i gyfleoedd cymdeithasol ac economaidd. Mae trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn gyfle gwirioneddol i helpu gyda’r adferiad economaidd yn dilyn Covid-19, trwy ddefnyddio cadwyni cyflenwi lleol i ailgodi’n gryfach.

“Mae ein buddsoddiad mewn systemau Metro yn y gogledd a’r de yn dystiolaeth o’n hymrwymiad i greu rhwydwaith trafnidiaeth modern a fydd yn diwallu anghenion Cymru yn y dyfodol.”

 

Bydd y gwaith o adeiladu Metro De Cymru yn cyflymu yn ystod yr haf, yn ystod y dydd a’r nos, a bydd Trafnidiaeth Cymru yn cyflwyno trefniadau teithio amgen ar gyfer cwsmeriaid yn ystod y cyfnodau pan fydd y gwaith yn digwydd. Mae disgwyl i’r gwaith trawsnewid gymryd tair blynedd i’w gwblhau, a gall cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru a’r sawl sy’n byw ger ei reilffyrdd glicio yma i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd.  

Gall cwsmeriaid ddisgwyl gweld mwy o gapasiti, teithiau cyflymach a chysylltiadau gwell rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth.  Bydd y gwasanaethau hefyd yn fwy gwyrdd, yn fwy mynych, yn fwy hygyrch, yn fwy dibynadwy ac yn dawelach i’r sawl sy’n byw ger y rheilffyrdd.  

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Trafnidiaeth Cymru

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon