Newyddion

face-coverings-public-transport-wales-welsh-government

Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch gorfod defnyddio gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddydd Llun 27 Gorffennaf ymlaen

24 Gorffennaf 2020

Beth yw'r gofyniad cyfreithiol newydd?

Beth yw “gorchudd wyneb” a sut y dylid ei wisgo?

Ble a phryd y maeʼr gofyniad yn gymwys?

I bwy mae'r gofyniad yn gymwys?

A oes unrhyw eithriadau?

Sut y gallaf ddangos nad oes angen imi wisgo gorchudd wyneb?

Sut y caiff y gofyniad ei orfodi?

Pam y gwneir hyn?

 

Beth yw'r gofyniad cyfreithiol newydd?

O ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020 bydd yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

 

Beth yw “gorchudd wyneb” a sut y dylid ei wisgo?

Darllenwch ein cyngor ar wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau lle y gall fod yn anodd cadw pellter cymdeithasol, a'n canllaw ar wneud gorchudd wyneb sydd â thair haen (yn unol ag argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd).

Rhaid i orchuddion wyneb orchuddio'r geg a'r trwyn. Wrth fynd ati i wisgo gorchuddion, a thra byddant amdanoch, dylech ond cyffwrdd â'r strapiau, y clymau neu'r clipiau. Peidiwch â chyffwrdd â rhan flaen y gorchudd wyneb, na'r rhan ohono sydd wedi bod mewn cysylltiad â'ch ceg a'ch trwyn. Dylech hefyd olchi eich dwylo yn drylwyr â sebon a dŵr am 20 eiliad neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo cyn gwisgo gorchudd wyneb ac ar ôl ei dynnu.

Os byddwch yn defnyddio gorchudd wyneb y gellir ei wisgo fwy nag unwaith, cadwch ef mewn bag plastig nes ichi gael cyfle i'w olchi. Golchwch ef yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr ar y tymheredd uchaf sy'n briodol i'r defnydd. Peidiwch â gadael i rywun arall ei ddefnyddio. Gallwch ddefnyddio eich sebon golchi dillad arferol, a gallwch ei olchi a'i sychu gyda'ch golch arall. Rhaid ichi daflu eich gorchudd wyneb os yw wedi'i ddifrodi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn glanhau unrhyw arwyneb y mae'r gorchudd wyneb wedi cyffwrdd ag ef gan ddefnyddio cynhyrchion glanhau tŷ arferol.

Os mai dim ond unwaith y gellir defnyddio'r gorchudd wyneb, taflwch ef mewn bin gwastraff gweddilliol. Peidiwch â'i roi mewn bin ailgylchu.

 

Ble a phryd y maeʼr gofyniad yn gymwys?

Mae'r gofyniad yn gymwys i bob cerbyd trafnidiaeth gyhoeddus caeedig gan gynnwys bysiau, coetsys, trenau, tramiau, fferïau ac awyrennau (lle byddant yn hedfan o Gymru neu'n glanio yng Nghymru). Mae hefyd yn gymwys i dacsis a gwasanaethau i dwristiaid, fel rheilffyrdd mynydd a bysiau gwibdeithiau.

Dylid gwisgo gorchuddion wyneb am y daith gyfan ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod angen eu gwisgo o'r foment y byddwch yn dal y bws, trên ac ati hyd nes y byddwch wedi disgyn. 

Nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb wrth aros am drafnidiaeth gyhoeddus. Wrth safle bws, er enghraifft, dylid parhau i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr. Ceir canllawiau cyffredinol ar fesurau cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a sicrhau hylendid anadlol da yma. Mae hyn hefyd yn wir am orsafoedd bysiau neu drenau dan do, meysydd awyr a phorthladdoedd fferi.

Fodd bynnag, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn argymell y dylai pobl wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau caeedig lle ceir llawer o bobl a lle mae'n anodd cadw pellter cymdeithasol.

 

I bwy mae'r gofyniad yn gymwys?

Mae'r gofyniad yn gymwys i bob teithiwr 11 oed a throsodd. Nid yw'n gymwys i staff na swyddogion yr heddlu sydd angen mynd ar gerbydau fel rhan o'u dyletswyddau i orfodi'r gyfraith.

 

A oes unrhyw eithriadau?

Mae rhai eithriadau i'r gofyniad cyffredinol i wisgo gorchuddion wyneb. Mewn rhai amgylchiadau mae 'eithriadau' sy'n golygu nad yw'r gofyniad yn gymwys i bawb. Mewn amgylchiadau eraill gall fod gan rai pobl 'esgus rhesymol', yn dibynnu ar y sefyllfa, dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb rywfaint o'r amser, os o gwbl.

Eithriadau

Nid oes angen i blant o dan 11 oed wisgo gorchuddion wyneb ar unrhyw drafnidiaeth.

Yn yr un modd, nid oes gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb ar gludiant ysgol, boed y cerbyd yn fws neu'n dacsi. (Rhoddir canllawiau penodol ar gludiant ysgol i awdurdodau lleol, ysgolion a gweithredwyr cludiant ysgol cyn i'r flwyddyn ysgol newydd ddechrau.) Bydd angen i blentyn sydd dros 11 oed ac sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gyffredin wisgo gorchudd wyneb.

Mae eithriadau eraill yn gymwys i longau mordeithio a'r rhan fwyaf o fferïau. Mae fferïau lle mae'r ardal i deithwyr yn yr awyr agored, lle gellir cadw pellter cymdeithasol a chorfforol o 2 fetr neu lle mae teithwyr yn aros yn eu cerbydau eu hunain wedi'u heithrio. Os na fydd y fferi wedi'i heithrio, nid oes angen gwisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i gabanau a ddefnyddir gan aelodau o'r un aelwyd neu aelwyd estynedig (gan gynnwys gofalwr a ystyrir yn rhan o'r aelwyd at y dibenion hyn).

Esgusodion rhesymol

Efallai y bydd gennych esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb, gan gynnwys y canlynol:

  • Ni allwch roi gorchudd wyneb amdanoch na'i wisgo oherwydd salwch corfforol neu feddyliol, neu oherwydd anabledd neu nam
  • Rydych gyda rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu, neu
  • Rydych yn dianc rhag bygythiad neu berygl ac nid oes gennych orchudd wyneb.

Efallai y bydd gennych hefyd esgus rhesymol dros dynnu gorchudd wyneb dros dro, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae angen ichi gymryd meddyginiaeth
  • Mae angen ichi fwyta neu yfed, a ganiateir yn y math o gerbyd rydych ynddo, neu
  • Mae angen ichi dynnu gorchudd wyneb er mwyn osgoi niwed neu anaf, naill ai i chi'ch hun neu i eraill – er enghraifft i dynnu sylw rhywun at berygl.

Fodd bynnag, bydd y gallu i ddefnyddio esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb ar unrhyw adeg benodol yn dibynnu ar yr unigolyn a'r amgylchiadau y mae'n teithio ynddynt. Gall hyn olygu y bydd gan rywun esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb weithiau, ond nid bob tro. A gall yr esgus rhesymol fod yn un dros dro, a heb fod yn gymwys i'r daith gyfan.

Er enghraifft, wrth ystyried yr angen i fwyta neu yfed yn ystod y daith, gall hyd y daith, unrhyw gyflyrau corfforol, a'r tymheredd a'r lleithder yn y cerbyd i gyd fod yn berthnasol. Nid oes angen i'r rhan fwyaf o bobl fwyta nac yfed ar deithiau byr, ond gall hyn fod yn wahanol i rywun diabetig, er enghraifft, neu mewn tywydd poeth.

Efallai y bydd y rhan fwyaf o bobl ag asthma, er enghraifft, yn gallu gwisgo gorchudd wyneb ar deithiau byr. Fodd bynnag, efallai na fyddant yn teimlo'n gyfforddus ar deithiau hir neu mewn tywydd poeth. Hefyd, gall rhai deimlo na allant anadlu wrth wisgo gorchudd wyneb. Yn yr un modd, yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, gall pobl osgoi cymryd meddyginiaeth ar daith, yn enwedig taith fer.


Sut y gallaf ddangos nad oes angen imi wisgo gorchudd wyneb?

Ni fydd bob amser yn amlwg a oes gan rywun esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb. Nid yw anableddau na namau bob amser yn weladwy i bobl eraill, a dylid dangos parch a dealltwriaeth tuag at y rhai sydd â rhesymau da dros beidio â gwisgo gorchuddion wyneb.

Os yw'n bosibl, cynghorwn deithwyr i gario gwybodaeth sy'n dangos bod ganddynt esgus rhesymol (er enghraifft presgripsiwn neu dystiolaeth fel llythyr apwyntiad ysbyty yn ymwneud â chyflwr meddygol). Mae nifer o weithredwyr trafnidiaeth hefyd yn awgrymu y dylai'r rhai sydd ag esgus rhesymol gario cardiau y gellir eu lawrlwytho o'u gwefannau a'u hargraffu.

 

Sut y caiff y gofyniad ei orfodi?

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd teithwyr sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn deall y rhesymau dros wisgo gorchuddion wyneb ac yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod y rheolau newydd yn cael eu hegluro i deithwyr a'u bod yn cael cyfle i gydymffurfio.

Mae'n ofynnol i weithredwyr trafnidiaeth roi gwybodaeth am y gofyniad cyfreithiol i'r rhai sy'n bwriadu defnyddio eu cerbydau. Gall y wybodaeth hon gael ei darparu mewn sawl ffordd.  Dylai gwefannau gweithredwyr trafnidiaeth gynnwys gwybodaeth benodol am wisgo gorchuddion wyneb fel rhan o'r amodau teithio a gellir darparu dolenni i wefannau defnyddiol eraill – er enghraifft, sy'n dangos sut i wneud gorchudd wyneb a sut i wisgo gorchudd wyneb yn gywir. Dylai gwybodaeth yn hysbysu teithwyr am y gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb gael ei dangos mewn man amlwg tu mewn i'r cerbyd (yn Gymraeg a Saesneg) lle bynnag y bo modd. Dylid hefyd ddarparu gwybodaeth mewn cyfleusterau fel safleoedd bysiau, gorsafoedd trenau, terfynfeydd fferïau, a lolfeydd ymadael.

Mae cyfraith Cymru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr trafnidiaeth gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws ar eu safleoedd, sy'n cynnwys cerbydau. Mae ganddynt ran i'w chwarae i gadw pobl yn ddiogel wrth iddynt deithio.

Felly, mae gan yrwyr, criw a staff mewn cerbydau rôl i'w chwarae o ran egluro'r gofynion a sicrhau bod teithwyr yn gwisgo gorchuddion wyneb. Dylid ystyried bod gwisgo gorchuddion wyneb yn rhywbeth hanfodol i'w wneud wrth deithio, ynghyd â'r ffyrdd eraill o ymddwyn sydd wedi dod yn arfer. Er enghraifft, bydd gyrwyr a gweithredwyr trafnidiaeth, am reswm da, yn gwrthod cludo teithwyr sy'n ceisio smygu. Ystyrir bod smygu yn y fath amgylchiadau yn peri risg i iechyd gyrwyr, staff a theithwyr eraill. Dylai gyrwyr wrthod cludo teithiwr nad yw'n gwisgo gorchudd wyneb wrth ddal bws, er enghraifft, am yr un rheswm oni fydd wedi'i eithrio neu fod ganddo esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny.

Os bydd teithiwr yn anwybyddu cyfarwyddyd i wisgo gorchudd wyneb gan weithredwr trafnidiaeth neu un o gyflogeion y gweithredwr, bydd hynny'n drosedd. Bydd hefyd yn drosedd peidio â gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus oni fydd eithriad yn gymwys neu fod gan deithiwr esgus rhesymol.

Pan ofynnir iddynt wneud hynny, caiff teithwyr gyfle i wisgo gorchudd wyneb neu egluro pam bod ganddynt esgus rhesymol dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb. Os na chydymffurfir â'r gyfraith, gellir dweud wrth deithwyr am adael y cerbyd maent yn teithio arno. Fodd bynnag, gall swyddogion yr heddlu neu swyddogion iechyd yr amgylchedd hefyd gyflwyno cosb benodedig am fethu â bodloni'r gofynion hyn. Bydd cosb o £60 am drosedd gyntaf (a fydd yn dyblu am bob trosedd wedi hynny hyd at uchafswm o £1920). Gellid hefyd erlyn ad-troseddwyr yn y llys lle nad oes terfyn ar y ddirwy y gellir ei chyflwyno.

 

Pam y gwneir hyn?

Cyflwynir y gofyniad er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws ac mae'n rhan o ystod eang o gyfyngiadau a gofynion sy'n ceisio atal lledaeniad y feirws.

Y prif gyfiawnhad dros wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yw bod llai o gyfle ar fysiau, trenau, awyrennau a thacsis i gymryd camau eraill i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws. Ar drafnidiaeth gyhoeddus bydd teithwyr fel rheol yn eistedd yn yr un sedd am y daith gyfan ac yn aml ni ellir symud i ffwrdd o deithwyr eraill.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn cynghori y dylid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau caeedig lle ceir llawer o bobl a lle na ellir cadw pellter cymdeithasol. Mae Lloegr a'r Alban wedi cyflwyno gorchuddion wyneb gorfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus, fel sy'n wir am lawer o wledydd eraill ledled y byd.

Mae cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru wedi argymell ers peth amser y dylid gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyfyngedig lle na ellir cadw pellter cymdeithasol. Cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo a sicrhau hylendid anadlol da yw'r pethau pwysicaf y gallwn eu gwneud o hyd i reoli'r feirws. Fodd bynnag, drwy ei gwneud yn ofynnol i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, cydnabyddir na ellir cadw pellter cymdeithasol yn y rhan fwyaf o gerbydau.

Rydym yn dysgu mwy am y coronafeirws drwy'r amser ac mae'r wyddoniaeth yn awgrymu bod gwisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyfyngedig yn debygol o atal lledaeniad y feirws. Maent yn gwneud hyn yn bennaf drwy gadw'r feirws yng ngheg neu drwyn person heintus. Felly, er mwyn bod yn effeithiol, mae angen iddynt gael eu gwisgo gan bawb a all wneud hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig am nad yw llawer o bobl sydd wedi'u heintio â'r feirws yn dangos unrhyw symptomau ac ni fyddant yn gwybod y gallent fod yn heintio pobl eraill (dylai unrhyw un sydd â symptomau neu sy'n amau bod ganddynt y feirws hunanynysu ar unwaith a gwneud cais am brawf yn unol â'r drefn).

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon