Newyddion

new-bus-service-cardiff-nat-group-traveline-cymru

NAT Group yn bwriadu lansio gwasanaeth bws newydd ar gyfer Caerdydd ac ymestyn llwybr gwasanaeth X8

27 Gorffennaf 2020

Bydd llwybr bysiau newydd sbon, a fydd yn cysylltu Parc Manwerthu Capital a Stadiwm Dinas Caerdydd â Phengam Green (Tesco) ac a fydd yn teithio ar hyd Ocean Way a thrwy Grangetown, yn cael ei lansio ym mis Medi ac yn cael ei weithredu gan NAT Group. Mae’r cwmni, sy’n un o ddarparwyr trafnidiaeth mwyaf blaenllaw Cymru, hefyd yn bwriadu ailenwi ac ymestyn ei lwybr X8 presennol yn rhan o’i gynlluniau strategol ar gyfer y rhwydwaith.

Bydd NAT Group yn dechrau gweithredu gwasanaeth C2, a fydd yn rhan o’i rwydwaith Crosscity, ddydd Llun 7 Medi a bydd y gwasanaeth yn cynnig cysylltiadau newydd ar gyfer y sawl sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith, y sawl sy’n mynd i siopa a thrigolion lleol. Bydd y gwasanaeth yn gweithredu bob 20 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a bydd y llwybr yn cynnwys Ocean Way, Dociau Caerdydd, Tesco Extra Pengam Green, Grangetown, Corporation Road, Clive Street a Heol Penarth. Bydd yn gorffen ym Mharc Manwerthu Capital, Heol Lecwydd.

Wrth i wasanaeth C2 gael ei lansio bydd y llwybr X8 poblogaidd presennol, sy’n cysylltu canol Caerdydd â Bae Caerdydd i gyfeiriad y de a’r Ddraenen i gyfeiriad y gogledd, yn cael ei ailenwi’n C8 fel ei fod yn cyd-fynd â brand rhwydwaith ‘Crosscity’ NAT Group ar gyfer Caerdydd. Yn y dyfodol bydd enw pob un o lwybrau bysiau NAT yng Nghaerdydd yn dechrau â’r llythyren ‘C’, a bydd y llythyren ‘X’ yn cael ei chadw ar gyfer gwasanaethau traws gwlad.

O 7 Medi ymlaen bydd gwasanaeth C8, sy’n gweithredu bob 30 munud, yn cael ei ymestyn yn sylweddol er mwyn gwasanaethu Ffynnon Taf. Bydd y newidiadau’n golygu bod modd darparu gwasanaeth cyflym rhwng Ffynnon Taf, Rhiwbeina a’r Ddraenen, a fydd yna’n mynd i mewn i Gaerdydd. Mae’r newid hefyd yn golygu y bydd gwasanaeth uniongyrchol ar gael rhwng Ffynnon Taf a Bae Caerdydd.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr NAT Group, Adam Keen: “Mae cyflwyno gwasanaeth C2, ac ymestyn ac ailfrandio gwasanaeth C8 fel y’i gelwir erbyn hyn, yn ddau yn unig o’r newidiadau sylweddol yr ydym yn eu gwneud yn raddol i’n rhwydwaith. Maent yn gam mawr ymlaen i ni fel busnes, ond yn bwysicach na hynny maent yn cynnig cysylltiadau newydd ar gyfer pobl Caerdydd ar sail adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr bysiau a’n cydweithwyr. Ein bwriad hirdymor yw diweddaru a symleiddio’r gwasanaethau a ddarperir gennym, er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig llwybrau defnyddiol a phrofiad da i gwsmeriaid. Rydym yn gwneud cynnydd sydyn a sylweddol o ran hynny, a hoffem annog pobl i roi cynnig ar ddefnyddio’r llwybrau newydd er mwyn iddynt gael y cyfle gorau posibl i lwyddo.

“Eleni’n barod, rydym wedi cyflwyno gwasanaeth ‘Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw’ cyntaf erioed Caerdydd ac rydym hefyd wedi ymgymryd â llwybr bysiau allweddol ‘TrawsHafren’ sy’n cysylltu de Cymru â Bryste. Mae hynny ar ben yr holl fesurau diogelwch newydd yr ydym wedi’u cyflwyno er mwyn cydymffurfio â rheoliadau’r Llywodraeth a sicrhau ein bod yn gwneud mwy nag sydd raid i ddiogelu ein cwsmeriaid.

“Mae’r llwybr C2 newydd yn wasanaeth hwylus a chyffrous sy’n cynnig dull cyfleus o deithio ar gyfer trigolion Pengam Green, Grangetown a Corporation Road yn ogystal â’r sawl sy’n teithio’n ôl ac ymlaen i’w gwaith yn ardal Ocean Way, lle nad oes fawr ddim cyfleusterau parcio ar gael i weithwyr.

“Mae ymestyn gwasanaeth C8 nid yn unig yn fodd i ddarparu gwasanaeth mwy cynhwysfawr ar gyfer teithwyr hen a newydd ond hefyd yn gwneud synnwyr o safbwynt gweithredol, oherwydd bydd yn fodd i ni ymgorffori ein depo newydd yn Ffynnon Taf er mwyn lleihau milltiroedd ofer a hwyluso’r broses o newid gyrwyr.

“Mae’n gyfnod cyffrous i NAT Group a’r sawl sy’n defnyddio – neu sy’n awyddus i ddefnyddio – trafnidiaeth gyhoeddus, a byddwn yn parhau i weithio gyda’n teithwyr ar ddatblygiadau ar gyfer y dyfodol.”

Ffynhonnell y wybodaeth: NAT Group

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon