Newyddion

transport-for-wales-sensmaker-customer-survey-traveline-cymru

Trafnidiaeth Cymru yn lansio arolwg i’r cyhoedd

31 Gorffennaf 2020

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i’r cyhoedd gymryd rhan mewn arolwg a all helpu gyda chynlluniau trafnidiaeth yn y dyfodol.

Gellir cael mynediad at yr arolwg digidol SenseMaker drwy ffôn symudol neu gyfrifiadur, neu ar bapur os oes angen, a bydd yn cael ei ddefnyddio i gasglu barn y cyhoedd am drafnidiaeth.

Wrth i TrC barhau gyda’u cynlluniau i drawsnewid trafnidiaeth ar draws eu rhwydwaith, maent eisiau ymgysylltu â’r bobl maent yn eu gwasanaethu, casglu gwybodaeth a darparu llwyfan hygyrch lle gellir clywed a rhannu barn y cyhoedd a gweithredu ar hynny.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Mae cwsmeriaid wrth wraidd ein proses gwneud penderfyniadau yn TrC ac rydym yn parhau i weithio i wella’r profiad cyffredinol i gwsmeriaid.

“Bydd yr arolwg SenseMaker yn ein galluogi ni i gael gwybodaeth hollbwysig am farn, agwedd ac ymddygiad pobl at drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy ddadansoddi’r canfyddiadau’n ofalus, gallwn eu defnyddio i helpu i lywio a dylanwadu ar ein cynlluniau yn y dyfodol.

“Mae Covid-19 wedi cyflwyno heriau sydd wedi golygu ein bod wedi gorfod ail-werthuso’r ffordd rydym yn gweithio ac yn teithio, ac oherwydd hynny mae gwybodaeth ac ymchwil newydd yn hollbwysig.

“Rydym angen i’r cyhoedd helpu drwy gymryd rhan yn yr arolwg, felly dilynwch y ddolen ar y wefan a rhannu eich barn â ni.” 

Ychwanegodd Silke Boak, Dadansoddwr Argraffiadau Cwsmeriaid:

“Ein gweledigaeth yn TrC yw creu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid trwy rwydwaith trafnidiaeth diogel y mae Cymru’n falch ohono.

“Er mwyn cyflawni’r weledigaeth hon mae’n allweddol ein bod yn ymgysylltu â’r cyhoedd ac yn gwrando ar eu barn ynghylch defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Mae’r arolwg SenseMaker yn enghraifft dda o hyn, a dim ond rhwng 10 a 15 munud y bydd yn ei gymryd i’w lenwi. Mae’r cwestiynau’n syml ac yn cynnig ffyrdd newydd o annog pobl i rannu eu barn, gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i'w gwblhau.”

I lenwi’r arolwg, ewch i https://collector.sensemaker-suite.com/?projectID=COVIDTfW&language=cy

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon