Newyddion

wales-transport-award-nomination-traveline-cymru

Traveline Cymru “yn falch iawn” o fod wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy o Wobrau Trafnidiaeth Cymru

27 Awst 2020

Mae Traveline Cymru “yn falch iawn” o fod wedi cael ei ddewis ar gyfer y rownd derfynol mewn dau gategori yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru eleni, sy’n wobrau o fri.

Mae darparwr gwybodaeth am deithio Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Gofal Cwsmer a’r categori Menywod ym maes Trafnidiaeth.

Cafodd Traveline Cymru, sy’n rhan o’r sefydliad ymbarél PTI Cymru, ei gydnabod yn y categori Gofal Cwsmer oherwydd ei ymroddiad i’r gwaith o ddarparu cyngor, cymorth a miliynau o ddarnau o wybodaeth gyfredol i deithwyr yng Nghymru bob blwyddyn.

Ym mis Mai nodwyd bod lefel bodlonrwydd cyffredinol cwsmeriaid â chanolfan gyswllt Traveline Cymru yn 94% yn ystod y 12 mis blaenorol oherwydd bod y gwasanaeth mor hawdd i’w ddefnyddio a bod y staff mor barod i helpu, a chafodd gwasanaethau’r ganolfan sgorau uchel gan ei chwsmeriaid.  

At hynny, darparodd y ganolfan gyswllt dros bum miliwn o ddarnau o wybodaeth am drafnidiaeth drwy gyfres o wasanaethau dwyieithog yn 2019.

Mae Traveline Cymru wedi rhagori hefyd eleni yn wyneb llifogydd a’r pandemig coronafeirws pan wnaeth y staff “fwy na’r disgwyl” i gynorthwyo teithwyr a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf wrth iddynt hefyd geisio addasu i ffyrdd newydd o weithio a chael gwybodaeth a oedd yn newid yn sydyn.

 

Yn y categori Menywod ym maes Trafnidiaeth mae’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Jo Foxall, wedi cael ei chydnabod am ei hymroddiad diflino i’r sefydliad.

Mae Ms Foxall wedi cyrraedd y rhestr fer ar ôl gweithio’n ddyfal i PTI Cymru ers iddi ymuno â’r sefydliad 16 a hanner o flynyddoedd yn ôl.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi arwain y tîm i sicrhau mwy fyth o lwyddiant a lefelau bodlonrwydd hynod uchel o fewn y diwydiant ac ymhlith cwsmeriaid.

Mae hefyd wedi arwain timau drwy chwarter cyntaf cythryblus ac wedi eu cynorthwyo i addasu i ffyrdd hyblyg o weithio wrth ymateb i’r pandemig coronafeirws.

 

Wrth glywed bod Traveline Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori, dywedodd Ms Foxall ei bod yn falch iawn bod ymroddiad parhaus Traveline Cymru yn cael ei gydnabod.

Meddai: “Rydym yn falch iawn bod Traveline Cymru wedi cael ei ddewis ar gyfer y rownd derfynol mewn dau gategori yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru eleni.

“Mae ein staff ymroddedig wedi gwneud mwy na’r disgwyl unwaith eto yn ystod y 12 mis diwethaf i sicrhau bod teithwyr ledled Cymru yn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf. Maent hefyd wedi wynebu heriau digynsail eleni ac wedi addasu’n hwylus i weithio gartref heb fod hynny’n tarfu ar ein gwasanaeth i gwsmeriaid.

“Rydw innau wrth fy modd o fod wedi cael fy nghydnabod yn y categori Menywod ym maes Trafnidiaeth ochr yn ochr â rhai o arweinwyr mwyaf brwdfrydig a llwyddiannus y diwydiant.

“Hoffwn ddiolch i’r beirniaid am gydnabod ein hymrwymiad parhaus i gynorthwyo teithwyr ar fysiau a threnau ledled y wlad, ac rydym yn edrych ymlaen at y seremoni wobrwyo a fydd yn cael ei chynnal yn ddiweddarach eleni.”

 

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.    

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Gemma Gwilym ar 01446 771265 neu gemma@jamjar.agency 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon