Newyddion

stagecoach-south-wales-school-service-guidance-traveline-cymru

Canllawiau gan Stagecoach yn Ne Cymru ynghylch gwasanaethau bws ar gyfer ysgolion a cholegau

01 Medi 2020

  • Gwasanaethau ychwanegol yn gweithredu ar gyfer ysgolion, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol
  • Ail fws yn gweithredu er mwyn gallu cludo mwy o ddisgyblion a myfyrwyr sy’n dychwelyd i ysgolion a cholegau
  • Mesurau estynedig ar waith er mwyn hybu hyder cwsmeriaid
  • Teithwyr yn gallu prynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw neu’n gallu defnyddio technoleg ddigyffwrdd neu arian cywir yn unig i dalu am eu tocyn ar y bws

Mae Stagecoach wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch gwasanaethau bws ar gyfer ysgolion a cholegau yn ne Cymru er mwyn cynorthwyo disgyblion a myfyrwyr i ddychwelyd yn ddiogel i’w hysgolion a’u colegau ym mis Medi.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol y de-ddwyrain, bydd Stagecoach yn darparu 50 o fysiau pwrpasol ychwanegol ar gyfer ysgolion a cholegau er mwyn gallu cludo mwy o ddisgyblion a myfyrwyr o 1 Medi ymlaen. Mae amserlenni’r teithiau pwrpasol ychwanegol hyn ynghyd â manylion amdanynt i’w cael ar wefan Stagecoach, gan Traveline Cymru ac ar broffil Stagecoach yn Ne Cymru ar Twitter.

Bydd sgrin flaen yr ail fws yn dangos yn glir mai bws ysgol/coleg ydyw. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd rhif ‘9’ o flaen rhif y gwasanaeth ac enw’r gyrchfan fel bod teithwyr yn gallu gwahaniaethu rhwng y bws arferol a’r ail fws sy’n fws ysgol/coleg yn unig. Dyma un enghraifft:

COLEG NANTGARW 932
DIWRNODAU YSGOL YN UNIG

Nid yw’r rheolau presennol ynghylch gwisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus yn berthnasol i wasanaethau cludiant i’r ysgol, oherwydd bod gwasanaethau cludiant i’r ysgol yn llai tebygol o ledaenu’r feirws na thrafnidiaeth ar gyfer y cyhoedd yn gyffredinol. Fodd bynnag, mater i’r cyngor lleol a’r ysgol yw penderfynu a ddylai disgyblion dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb ar wasanaethau cludiant i’r ysgol ai peidio. Dylech gysylltu â’r ysgol neu’ch cyngor lleol os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Bydd angen i blentyn neu berson ifanc 11 oed neu hŷn sy’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus arferol wisgo gorchudd wyneb, oni bai ei fod wedi’i eithrio rhag gorfod gwneud hynny. Mae cardiau cymorth i deithio ar gael ar wefan Stagecoach i’r sawl y mae angen iddynt wneud cais am gerdyn eithrio. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canllawiau yma https://trc.cymru/cy/gorchuddion-wyneb

Caiff cwsmeriaid nad ydynt yn teithio i’r ysgol, y coleg neu’r gwaith eu cynghori i geisio osgoi’r bysiau prysur y bydd disgyblion a myfyrwyr yn teithio arnynt. Caiff y cwsmeriaid i gyd eu hannog i brynu tocynnau ar-lein ymlaen llaw drwy ap Stagecoach ac i ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd neu arian cywir yn unig i dalu am eu tocynnau ar fysiau Stagecoach yn Ne Cymru, er mwyn lleihau’r angen i drafod arian mân. Bydd unrhyw newid mân sy’n weddill yn cael ei roi i apêl NHS Charities Together.

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Wrth i ddisgyblion a myfyrwyr ddychwelyd i’r ysgol a’r coleg ac wrth i fwy o bobl ailddechrau teithio i’r gwaith, rydym am wneud yn siŵr eu bod yn gallu teimlo’n hyderus ynglŷn â’u taith gyda ni.

“Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyflwyno nifer o fesurau ychwanegol er mwyn sicrhau bod ein teithwyr yn gallu teithio’n ddiogel ar fysiau.

“Mae Stagecoach yn parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ynghylch Covid-19 ac mae wedi cyflwyno prosesau i sicrhau glendid a chynorthwyo pobl i gadw pellter cymdeithasol. Mae’r trefniadau cynhwysfawr yn cynnwys glanhau bysiau’n drylwyr bob dydd a darparu hylif diheintio’r dwylo ar holl fysiau Stagecoach yn Ne Cymru. O gael pawb i chwarae eu rhan a dilyn y rheolau ynghylch gwisgo gorchudd wyneb a golchi eu dwylo, gall pobl barhau i ddefnyddio bysiau er mwyn teithio’n ddiogel ac yn hyderus i’r gwaith, yr ysgol a’r coleg.”

Meddai Nigel: “Erbyn hyn, mae’r ap hefyd yn cynnwys nodwedd “bysiau prysur” sy’n defnyddio llawer o ddata a deallusrwydd artiffisial i ddarparu dangosydd golau traffig er mwyn helpu cwsmeriaid i gynllunio eu teithiau.”

I weld fideo Stagecoach am deithio’n ddiogel, ewch i https://www.youtube.com/watch?v=Mbvu5nuuF9Y

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon