Newyddion

stagecoach-south-wales-september-service-level-increase-traveline-cymru

Cadarnhau cynlluniau i gynyddu gwasanaethau bws ar draws rhwydwaith Stagecoach yn Ne Cymru er mwyn cael olwynion y wlad i droi unwaith eto

04 Medi 2020

  • Y bwriad yn y lle cyntaf yw cael amserlenni’n ôl i 80% o’r hyn oeddent cyn COVID-19, er mwyn helpu i ailddechrau’r economi a bywyd pob dydd
  • Mae gweithredwyr bysiau’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i dargedu gwasanaethau lle mae eu hangen fwyaf
  • Mae mesurau helaeth ar waith i ddarparu gwasanaethau bws glân a diogel i deithwyr
  • Bydd bysiau unigol yn dal i gario llai o deithwyr er mwyn eu galluogi i gadw pellter cymdeithasol
  • Mae’r amserlenni diweddaraf a gwybodaeth allweddol ar gael ar stagecoach.com

Mae Stagecoach yn Ne Cymru wedi cadarnhau y bydd yn ailgyflwyno rhai gwasanaethau dydd Sul o 6 Medi ymlaen ac y bydd yn cynyddu’r rhan fwyaf o’i wasanaethau bws yng Nghymru o 7 Medi ymlaen, er mwyn helpu i gael olwynion y wlad i droi wrth i’r cyfyngiadau ar symud gael eu llacio ymhellach. Bydd gwasanaethau bws o amgylch Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy yn cynyddu o 13 Medi ymlaen.

O 7 Medi ymlaen bydd amserlenni’r rhwydwaith bysiau yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Coed-duon a Chaerffili yn dychwelyd i oddeutu 80% o’r hyn oeddent cyn COVID-19, a cheir hwb pellach o 13 Medi ymlaen pan fydd gwasanaethau bws yn cynyddu o amgylch Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy. Mae manylion yr amserlenni newydd i’w gweld ar www.stagecoachbus.com.

Mae Stagecoach wedi cyflwyno mesurau helaeth a gwell i gadw bysiau’n lân, cadw teithwyr a staff yn ddiogel a sicrhau bod pobl yn gallu teimlo’n hyderus ynghylch defnyddio bysiau, sef y dull pwysicaf o deithio ym Mhrydain.

Mae peirianwyr a gyrwyr yn dychwelyd i’r gwaith er mwyn gwneud paratoadau hanfodol i sicrhau bod y fflyd o fysiau’n barod ar gyfer y cynnydd mewn gwasanaethau. Bydd y bysiau sydd wedi bod yn segur yn ystod yr wythnosau diwethaf yn cael eu glanhau’n drwyadl ac yn cael eu harchwilio’n fanwl cyn iddynt ddechrau cludo teithwyr.

Mae trefniadau glanhau Stagecoach sydd wedi’u gwella yn cynnwys glanhau pob bws o leiaf unwaith y dydd â diheintydd sy’n lladd COVID-19, gan ganolbwyntio’n benodol ar y mannau y bydd pobl yn eu cyffwrdd yn aml, a bydd bysiau ysgol yn cael eu glanhau fwy nag unwaith y dydd. Mae hylif diheintio’r dwylo ar gael ar bob bws yn ne Cymru.

Bydd sgriniau gwarchod wedi’u gosod o amgylch ardal y gyrrwr o hyd fel bod rhwystr rhwng y gyrrwr a’r teithwyr. Mae masgiau wyneb ar gael i’r gyrwyr ac, yn unol â chyngor y Llywodraeth, mae Stagecoach yn annog teithwyr i wisgo gorchudd wyneb 3 haen oni bai eu bod wedi’u heithrio rhag gwneud hynny, ac yn eu hannog i brynu tocynnau ymlaen llaw ar-lein neu ar yr ap neu ddefnyddio dull talu digyffwrdd neu’r arian cywir yn unig ar y bws. Mae cardiau cymorth teithio ar gael ar-lein i’r sawl nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb, a bydd angen i’r bobl hynny ddangos y cardiau i’r gyrrwr pan fyddant yn mynd ar y bws. Mae mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith ar yr holl wasanaethau bws yn awr, sy’n golygu bod pob bws unigol yn cludo tua 40% o’r teithwyr y byddai’n eu cludo fel arfer mewn amgylchiadau normal.

Bydd y cynnydd mewn gwasanaethau bws o fis Medi ymlaen yn sicrhau bod teithwyr yn gallu bod yn hyderus ynghylch defnyddio’r bws er mwyn mynd i’r gwaith, cael mynediad i addysg a chyrraedd cyfleusterau hamdden wrth iddynt ailagor.
Mae cynllunwyr gwasanaethau bws wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr amserlenni newydd yn diwallu anghenion cymunedau lleol ac yn helpu i gefnogi’r ymdrech genedlaethol. Mae Stagecoach yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y fflyd o fysiau’n cael ei defnyddio lle mae ei hangen fwyaf, yn unol â meini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu lefelau gwasanaethau.

 

Meddai Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: “Rydym yn hynod falch o ymdrechion arbennig ein holl staff drwy gydol y pandemig, ac yn fwy diweddar i baratoi’r bysiau i gludo teithwyr unwaith eto wrth i lefelau gwasanaethau gynyddu. Mae ein gweithwyr allweddol ni ein hunain wedi gwneud cyfraniad aruthrol, a hoffem ddiolch i bob un ohonynt ac i’n cwsmeriaid am gefnogi ein staff drwy gydol y pandemig.

"Bydd bysiau’n parhau i chwarae rôl hanfodol yn adferiad y wlad yn y dyfodol. Yn ogystal â helpu i ailddechrau ein heconomi, maent yn hanfodol o safbwynt adfer rhywfaint o normalrwydd mewn sawl agwedd ar ein bywyd pob dydd. Maent yn cysylltu teuluoedd a chymunedau â’i gilydd ac mae ganddynt rôl bwysig i’w chwarae o safbwynt sicrhau gwlad sy’n lanach ac sy’n fwy diogel ac iach.

“Mae tîm Stagecoach yn falch o wasanaethu ein cymunedau yn ne Cymru, ac rydym wrth ein bodd o fod yn cynyddu ein gwasanaethau o 6 Medi ymlaen. Mae’n golygu y gallwn ddarparu gwasanaethau tipyn mwy rheolaidd a mwy o gapasiti’n gyffredinol wrth i bobl ddechrau dychwelyd i’w bywyd pob dydd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn targedu gwasanaethau lle mae eu hangen fwyaf.

“Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein cwsmeriaid a’n gweithwyr. Gyda’r mesurau helaeth yr ydym wedi’u cyflwyno a chefnogaeth ein teithwyr, gallant fod yn hyderus y bydd ein bysiau yn lân, yn ddiogel ac yn barod i fynd.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon