Newyddion

adventure-coachlines-half-term-day-trips-traveline-cymru

Adventure Coachlines yn cychwyn tripiau undydd newydd sy’n addas i’r teulu

10 Medi 2020

Mae Adventure Coachlines wedi lansio cyfres o dripiau undydd yn ystod y gwyliau hanner tymor er mwyn rhoi gwên ar wynebau teuluoedd yn dilyn y pandemig. Y nod yw adfer hyder pobl mewn teithio ar fysiau, a chynnig ffordd gyfleus a rhad i deithwyr weld rhannau eraill o’r DU.

Bydd Adventure Coachlines – sef yr enw newydd ar adain bysiau moethus Grŵp NAT – yn dechrau’r gwasanaeth yn ystod hanner tymor mis Hydref gyda dau drip, y naill i Gaerfaddon a’r llall i'r Cotswolds, ar ôl i gyfyngiadau teithio gael eu llacio ac wrth i bobl ddangos awydd i ymweld â chyrchfannau yn y DU. Mae gweithdrefnau glanhau llym wedi’u cyflwyno ar draws holl fflyd Grŵp NAT, gan ddefnyddio cynnyrch glanhau gwrthfeirysol o’r safon uchaf, er mwyn sicrhau y glynir wrth holl reoliadau Llywodraeth Cymru ac y caiff teithwyr eu cadw’n ddiogel.

Mae mesurau ychwanegol yn cynnwys cadw lleoedd gwag rhwng seddi, rhoi cyfarpar diogelu personol i’r gyrwyr a darparu ‘pecynnau diogelwch COVID’ i deithwyr, sy’n cynnwys gel dwylo gwrthfacterol, weips gwrthfacterol, menig a masg wyneb. Mae’r arfer o wirio tymheredd pawb sydd ar y bws yn cael ei gyflwyno hefyd ar draws gwasanaethau’r adain bysiau moethus.

Bydd y trip undydd cyntaf i’r Cotswolds ar 27 Hydref yn mynd â theithwyr i weld pentref prydferth Bourton on the Water sy’n enwog am ei bentref model rhestredig gradd II a’i nentydd padlo. Yna, bydd trip yn mynd ar 29 Hydref i Fferm Ddinesig Caerfaddon sy’n addas i deuluoedd. Bydd y naill drip a’r llall yn mynd ar gerbydau moethus Adventure Coachlines sy’n cynnwys sgriniau teledu, seddi â breichiau, toiledau, llenni, seddi sy’n gwyro am yn ôl, system aerdymheru a goleuadau darllen. Bydd teithwyr yn cael eu casglu a’u gollwng yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Caerffili a Phontypridd. Mae’r prisiau rhataf yn £8 i blant ac yn £11 i oedolion. Bydd teithwyr yn treulio rhwng 3 a 6 awr ym mhob lleoliad.

 

Meddai Swyddog Gweithredol Gwerthu Tocynnau Adventure Coachlines, Lauryn Tunnel: “Mae’r chwe mis diwethaf wedi gweld newidiadau mawr i’n busnes, sydd wedi cynnwys symleiddio gwasanaethau, ymestyn llwybrau, lansio depo newydd sbon yn Ffynnon Taf a chyflwyno mesurau diogelwch a glanhau newydd. Mae pob un ohonynt wedi helpu i sicrhau bod ein teithwyr yn cael profiad o’r radd flaenaf. Fodd bynnag, mae arwyddion bod pethau’n gwella i’w gweld yn arafach yn adain bysiau moethus y cwmni.

“Mae cyflwyno tripiau undydd Adventure Coachlines yn gam mawr yn ein huchelgais i ddychwelyd i ryw fath o ‘normalrwydd’ ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu unigolion, cyplau a theuluoedd ar ein bysiau er mwyn iddynt gael ymweld â rhannau prydferth cyfagos o Loegr.”

I gael gwybod mwy am dripiau undydd Adventure Coachlines, anfonwch neges ebost i sales@natgroup.co.uk neu ffoniwch 02920 442040, estyniad 203.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon