Newyddion

nhs-test-and-trace-app-launches-wales-and-england-traveline-cymru

Aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i lawrlwytho ap Covid-19 y GIG er mwyn Profi, Olrhain a Diogelu yng Nghymru

22 Medi 2020

  • Mae ap COVID-19 y GIG yn cael ei dreialu ar hyn o bryd ac yn cael ei lansio ddydd Iau 24 Medi yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn cynnwys system QR ar gyfer cofrestru mewn lleoliadau.
  • Bydd codau QR yn gyfleuster pwysig y bydd rhaglen Profi ac Olrhain y GIG yn Lloegr a rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu y GIG yng Nghymru yn gallu ei ddefnyddio i gysylltu â nifer o bobl os caiff achosion o’r coronafeirws eu darganfod mewn lleoliadau.

Mae busnesau ledled Cymru a Lloegr, megis tafarnau, bwytai, siopau trin gwallt a sinemâu, yn cael eu hannog i sicrhau bod posteri codau QR y GIG yn amlwg wrth eu mynedfeydd, fel bod cwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho ap COVID-19 newydd y GIG yn gallu defnyddio eu ffonau clyfar i gofrestru’n hawdd.

Bydd ap COVID-19 y GIG yn cael ei lansio ledled Cymru a Lloegr ddydd Iau 24 Medi. Bydd Llywodraeth y DU yn cynorthwyo busnesau a lleoliadau i arddangos y codau QR, a gellir eu lawrlwytho drwy wefan er mwyn eu harddangos ar ffurf posteri mewn lleoliadau.

 

Meddai Ysgrifennydd Llywodraeth y DU dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Matt Hancock:

Mae angen i ni ddefnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael i ni i atal y feirws rhag ymledu, gan gynnwys technoleg arloesol. Mae lansio’r ap ledled Cymru a Lloegr yn nes ymlaen yn y mis yn ddigwyddiad o bwys, a fydd yn gwella ein gallu i atal y feirws rhag ymledu, ar adeg dyngedfennol.

Mae codau QR yn ffordd syml a hawdd o gasglu manylion cyswllt er mwyn cynorthwyo system Profi ac Olrhain y GIG.

Gall busnesau lletygarwch lawrlwytho posteri ar gyfer eu lleoliadau’n awr cyn bod ap COVID-19 y GIG yn cael ei lansio. Bydd y codau yn galluogi’r cyhoedd i gofrestru’n hwylus mewn lleoliadau gan ddefnyddio’r ap pan fydd yn cael ei lansio.

Mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio system Profi ac Olrhain y GIG i gyrraedd cymaint o bobl ag sy’n bosibl er mwyn atal rhagor o achosion a rhwystro’r feirws rhag ymledu. Bydd y cyfleuster hwn yn ffordd syml a hawdd o wneud hynny er mwyn i ni allu cadw’r feirws dan reolaeth.

Mae busnesau sydd eisoes yn defnyddio eu system QR eu hunain yn cael eu hannog i newid i system QR rhaglen Profi ac Olrhain y GIG. Ond rhaid cynnal dull amgen o gofrestru hefyd er mwyn casglu manylion cyswllt pobl nad yw’r ap ganddynt, er enghraifft cofrestr ar bapur.

Pan fydd rhywun yn mynd i mewn i leoliad ac yn sganio poster QR swyddogol, bydd gwybodaeth am y lleoliad yn cael ei rhoi ar ffôn y defnyddiwr. Bydd y wybodaeth honno’n aros ar ffôn y defnyddiwr am 21 diwrnod. Os bydd achos o’r coronafeirws yn cael ei ddarganfod yn y lleoliad yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd manylion adnabod y lleoliad yn cael eu hanfon i bob dyfais berthnasol. Bydd y ddyfais yn gwirio a yw’r sawl sy’n ei defnyddio wedi bod yn y lleoliad hwnnw, ac os yw’r ap yn gallu gweld ei fod, bydd y defnyddiwr yn cael rhybudd gyda chyngor ynghylch beth y dylai ei wneud ar sail lefel y risg.

 

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr ap COVID-19 y GIG, Simon Thompson:

Mae fy nhîm wedi bod yn gweithio’n ddiflino i ddatblygu ap COVID-19 newydd y GIG ac rydym yn ddiolchgar dros ben i holl breswylwyr Ynys Wyth a Bwrdeistref Newham yn Llundain, Ymatebwyr Gwirfoddol y GIG a’r tîm a’n rhagflaenodd; y ddealltwriaeth a’r gwersi hynny yw hanfod yr ap fel y mae heddiw.

Rydym yn awr yn rhoi amser i fusnesau baratoi eu lleoliadau cyn bod yr ap yn dod ar gael ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn cydweithio’n agos er mwyn ymgysylltu â nhw, eu haddysgu a rhoi gwybod iddynt sut y mae’r ap yn gweithio a sut y gallant chwarae eu rhan.

Mae’r system QR yn ffordd hawdd ac am ddim, sy’n gwarchod preifatrwydd, o gofrestru cwsmeriaid mewn lleoliadau ac rydym yn annog pob busnes i gymryd rhan ac i lawrlwytho ac arddangos posteri codau QR swyddogol y GIG.

 

Meddai Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Vaughan Gething:

Mae lansio ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o’r ymateb i’r coronafeirws, a bydd yn ategu’r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu yma yng Nghymru a’r rhaglen Profi ac Olrhain yn Lloegr. Gweithio ar y cyd ar draws Cymru a Lloegr yw’r opsiwn mwyaf ymarferol yn yr achos hwn, oherwydd rydym yn gwybod bod llawer o fynd a dod ar draws y ffin sydd rhyngom. Mae defnyddio’r un ap a gweithio yn yr un ffordd yn gwneud synnwyr, waeth pa wlad yr ydych ynddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â thîm ap y GIG i sicrhau bod yr ap yn hawdd ei ddefnyddio ac y bydd pobl yn cael y cyngor a’r canllawiau cywir sydd wedi’u teilwra i’r wlad y maent yn byw ynddi. Byddwn yn annog pobl yng Nghymru yn daer i lawrlwytho a defnyddio’r ap pan fydd yn cael ei lansio.

Po fwyaf o bobl fydd yn lawrlwytho ac yn defnyddio ap COVID-19 y GIG, y mwyaf y bydd hynny’n ein helpu i atal COVID-19 rhag ymledu.

 

Ffynhonnell y wybodaeth: Gov.uk

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon