Newyddion

local-lockdown-and-coronavirus-travel-guidance-pages-traveline-cymru

Traveline Cymru yn parhau i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am deithio wrth i gyfnodau clo lleol gael eu cyflwyno

24 Medi 2020

Wrth i gyfyngiadau pellach oherwydd y pandemig ddod i rym y mis hwn ac wrth i amserlenni gwasanaethau barhau i newid, hoffem atgoffa cwsmeriaid y dylent droi at ein pedair tudalen bwrpasol ar gyfer gwybodaeth am y coronafeirws cyn iddynt deithio.

Mae’r tudalennau dan sylw, sy’n darparu’r cyngor diweddaraf am ddiogelwch, sy’n darparu gwybodaeth am y cyfnodau clo ac am deithio ac sy’n ateb cwestiynau hollbwysig, ar gael drwy www.cymraeg.traveline.cymru

Mae’r tudalennau yn cynnwys ein tudalen ynghylch Cyfnodau Clo Lleol, sy’n rhoi’r manylion diweddaraf i deithwyr am gyfnodau clo lleol ac am unrhyw gyfyngiadau perthnasol ar deithio ac unrhyw fesurau diogelwch perthnasol.

Mae ein tudalen ‘Coronafeirws – Y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trafnidiaeth’ yn darparu manylion am yr holl newidiadau i wasanaethau trafnidiaeth ledled Cymru, ac mae’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am deithio.

Gall teithwyr ar fysiau gael gafael ar yr holl wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru a gweithredwyr unigol am ddiogelwch ar fysiau drwy fynd i’r dudalen ‘Canllawiau gweithredwyr bysiau ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws’. Mae’r dudalen yn cynnwys gwybodaeth am fesurau cadw pellter cymdeithasol, dulliau o dalu â thechnoleg ddigyffwrdd, gorchuddion wyneb a threfniadau glanhau.

Rhoddir sylw i gwestiynau am drafnidiaeth gyhoeddus, cyngor am ddulliau llesol o deithio, a llawer o ymholiadau eraill ar y dudalen ‘Canllawiau Trafnidiaeth Cymru ynghylch teithio yn ystod y pandemig coronafeirws’.

 

Meddai Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru: “Wrth i gyfnodau clo lleol gael eu cyflwyno’n awr ar draws Cymru, mae’n bwysicach fyth bod y sawl sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gallu defnyddio ein gwasanaeth er mwyn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf.

“Byddwn yn diweddaru’n rheolaidd yr holl newyddion a’r holl wybodaeth am deithio, er mwyn sicrhau bod pob teithiwr yn hollol ymwybodol o unrhyw newidiadau i lwybrau a gwasanaethau neu unrhyw gyfyngiadau ar deithio.

“Mae gwasanaethau’n newid yn sydyn ar fyr rybudd, felly mae’n hollbwysig bod pobl sy’n cynllunio taith yn defnyddio’r tudalennau hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth ddiweddaraf mewn pryd.

“Hoffem sicrhau pawb sy’n defnyddio ein gwasanaeth bod ein tîm pwrpasol wrth law, fel o’r blaen, i gynorthwyo teithwyr ym mhob rhan o Gymru.

“Mae ein timau yn gweithio’n ddiflino i ateb pob un o’ch ymholiadau a rhannu’r holl wybodaeth ddiweddaraf â chi wrth i ni barhau i wynebu cyfyngiadau lleol.

“Bydd ein tudalennau pwrpasol am y coronafeirws yn cynnwys yr holl wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau bws a thrên er mwyn sicrhau bod modd i chi gyrraedd pen eich taith, a hynny’n ddiogel.

“Unwaith eto, hoffem bwysleisio ein bod yma i chi. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes arnoch angen cymorth neu unrhyw gyngor ynghylch teithio.”

 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, dylid cysylltu â Gemma Gwilym yn jamjar drwy ffonio 01446 771265 neu ebostio gemma@jamjar.agency  

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon