Newyddion

Jo-Foxall-Women-In-Transport-Winner-Wales-Transport-Awards-Traveline-Cymru

Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru yn cipio’r wobr ‘Menywod ym maes Trafnidiaeth’

16 Hydref 2020

Llwyddodd Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru i gipio’r wobr ‘Menywod ym maes Trafnidiaeth’ yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru 2020.

Mae Jo Foxall o’r Bont-faen wedi cael ei chydnabod am ei hymroddiad diflino i’r sefydliad yn ystod yr 16 a hanner blynedd diwethaf.

Ymunodd Jo â’r darparwr gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i weithio i ddechrau fel Cynorthwy-ydd Marchnata, ac mae wedi dringo’r ysgol o fewn y sefydliad ers hynny i gyrraedd ei swydd bresennol, sef rôl y Rheolwr Gyfarwyddwr y mae wedi bod yn ei chyflawni ers tair blynedd.

Mae Jo yn aelod o’r Bwrdd Cyfarwyddwyr ac yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth gyffredinol ar gyfer y busnes. Mae’n arwain y gwaith o reoli safleoedd y cwmni o ddydd i ddydd yng Nghaerdydd ac yng Ngwynedd lle mae 44 aelod o staff yn gweithio, gan gadw mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru sy’n cyllido’r cwmni.

Er gwaethaf heriau niferus y 12 mis diwethaf, a oedd yn cynnwys effaith tywydd garw ar drafnidiaeth gyhoeddus ddechrau’r flwyddyn ac effaith Covid-19 ar y diwydiant trafnidiaeth yn ei gyfanrwydd, sy’n parhau, mae Traveline Cymru dan arweinyddiaeth Jo wedi darparu dros bum miliwn o ddarnau o wybodaeth hollbwysig am drafnidiaeth i’r cyhoedd yng Nghymru ac wedi sicrhau sgôr o 94% am fodlonrwydd cwsmeriaid ar gyfer ei ganolfan gyswllt ddwyieithog. 

Meddai Jo, ar ôl ennill y wobr: “Mae ennill y wobr hon yn fraint fawr, oherwydd roedd y categori’n cynnwys rhai o arweinwyr mwyaf llwyddiannus ac uchelgeisiol y diwydiant.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn ddigynsail i’r diwydiant trafnidiaeth, ac mae wedi creu heriau niferus sy’n parhau o hyd.

“Rwy’n falch o’r modd y mae ein sefydliad wedi ymateb yn sydyn ac yn gadarnhaol i’r newidiadau sydd wedi digwydd. Er gwaetha’r newidiadau mawr i’n trefniadau gweithio, rydym wedi parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’n cwsmeriaid ac i’r sawl y mae gennym gontractau â nhw. Gwnaethom hyd yn oed lwyddo i helpu rhai o’n deiliaid contract i ymdrin â galwadau ychwanegol wrth i’w busnesau nhw wynebau eu heriau eu hunain.

“Diolch o galon i drefnwyr y gwobrau hyn am gydnabod ymdrechion diflino’r diwydiant i gadw Cymru i fynd.”

Cafodd seremoni Gwobrau Trafnidiaeth Cymru ei chynnal am yr ail flwyddyn eleni, ac roedd y sawl a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn dod o bob cwr o Gymru ac yn cystadlu am 11 o wobrau mewn amryw gategorïau, a oedd yn cynnwys y wobr ‘Gwasanaeth i’r Diwydiant Trafnidiaeth’ a noddwyd gan Traveline Cymru ac a gyflwynwyd i First Cymru Buses Ltd.

Roedd y digwyddiad ar-lein, a gafodd ei ffrydio’n fyw ar YouTube, yn cynnwys neges o ddiolch gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart AS, a chydnabyddiaeth arbennig i Dîm Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Cafodd y wobr honno ei chyflwyno i Tony Chatfield a soniodd yn ei gyfweliad am y gwaith y mae ei dîm wedi bod yn gyfrifol amdano (ac yn dal yn gyfrifol amdano) yn ystod y pandemig hwn.   

Cafodd y seremoni gyffredinol ei noddi gan KeolisAmey Wales, a dyma’r unig wobrau yng Nghymru sy’n cydnabod y gwaith hollbwysig y mae cwmnïau trafnidiaeth yn ei wneud i gadw busnes i fynd yng Nghymru.

Meddai Liz Brookes, Sylfaenydd Gwobrau Trafnidiaeth Cymru a Pherchennog Grapevine Event Management: “Roedd y wobr ‘Menywod ym maes Trafnidiaeth’ yn gategori agos iawn a oedd yn llawn menywod gwych. Gwnaeth Jo Foxall o Traveline Cymru argraff dda ar y panel o feirniaid oherwydd mae’n amlwg iddi fod yn ddylanwadol iawn drwy gydol ei gyrfa yn Traveline Cymru, ac roedd yn haeddu cael ei chydnabod.

Meddai wedyn: “Er nad oedd modd i ni ddathlu’n bersonol yng nghwmni pawb, rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu parhau i gydnabod y cwmnïau a’r unigolion gwych hyn sy’n cadw Cymru i fynd, yn enwedig ar ôl blwyddyn mor anodd. Llongyfarchiadau gwresog i’r buddugwyr i gyd ac i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol, sydd hefyd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled a’u llwyddiant yn sgîl hynny.”

 

Mae Traveline Cymru yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio yng Nghymru. Mae’r cwmni dielw yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru ac awdurdodau lleol Cymru. Mae’n darparu gwybodaeth am lwybrau ac amserlenni ar gyfer pob un o wasanaethau bysiau a threnau’r wlad trwy gyfrwng ei wefan ddwyieithog www.traveline.cymru, ei wasanaeth Rhadffôn (0800 464 00 00) a’i gyfres o wasanaethau ar gyfer defnyddwyr ffonau symudol, sy’n cynnwys ap dwyieithog.     

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon