Newyddion

NAT-Transport-For-Wales-Demand-Response-Scheme-Cardiff-Traveline-Cymru

Cynllun Trafnidiaeth Seiliedig ar Alw cyntaf y brifddinas yn arwain y ffordd

19 Hydref 2020

Erbyn hyn, mae’r cynllun Trafnidiaeth ar Alw cyntaf i’w dreialu yn y brifddinas hanner ffordd drwy ei gyfnod peilot ac mae wedi croesawu dros 1,251 o deithwyr yn ystod y cyfnod hwnnw.

Cafodd fflecsi G1 Gogledd Caerdydd ei lansio ddiwedd mis Mehefin gan Gyngor Caerdydd, Trafnidiaeth Cymru a NAT Group – sydd hefyd yn gweithredu’r cynllun – ac mae’n dilyn llwyddiant gwasanaethau fflecsi yng Nghasnewydd, yn y Rhondda ac mewn rhannau eraill o Gymru. Gall teithwyr ofyn am gael eu casglu o unrhyw fan ar hyd y llwybr sy’n ymestyn o Gabalfa i Waelod-y-Garth drwy’r Eglwys Newydd, drwy ddefnyddio ap y gwasanaeth fflecsi i archebu sedd ymlaen llaw neu drwy ffonio’r ganolfan alwadau, Yna, caiff yr amserlenni a’r llwybrau eu haddasu’n ôl y galw. Mae’r cynllun yn cynorthwyo cwmnïau bysiau i sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae hefyd yn helpu pobl i wneud teithiau lleol hanfodol. Mae’r gwasanaeth wedi dod yn elfen allweddol o’r frwydr yn erbyn Covid-19.

Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr NAT Group, Adam Keen: “Rydym wedi gweld newid mawr yn y ffordd yr ydym yn gweithredu eleni, ac mae fflecsi yn un o’r datblygiadau arloesol a gyflwynwyd i helpu i wella’r modd yr ydym yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid a’r sefyllfa bresennol. Gan fod teithiau’n cael eu harchebu ymlaen llaw, gallwn ni reoli niferoedd y teithwyr a sicrhau bod pobl yn cadw pellter cymdeithasol ar draws y gwasanaeth a gall ein cwsmeriaid sicrhau eu bod nhw’n cadw lle ar y cerbyd y maent yn dymuno teithio arno, ar yr adeg angenrheidiol.

“Mae’r cynllun peilot wedi cael adborth cadarnhaol dros ben hyd yma gan y teithwyr a’r gyrwyr fel ei gilydd, a bydd yn helpu i ddylanwadu ar y modd y byddwn yn datblygu’r cynllun ar ôl i’r cyfnod treialu ddod i ben.”

Meddai James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Mae fflecsi yn gynllun peilot cyffrous iawn wrth i ni barhau i drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Mae’r pandemig Covid-19 sy’n parhau wedi cael effaith uniongyrchol ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac wrth i ni symud yn ein blaen bydd diogelwch ein cydweithwyr a’n cwsmeriaid yn parhau’n bwysicach na dim byd arall i ni.

“Mae’r cynllun peilot newydd hwn yn rhoi cyfle i ni ystyried ffordd newydd o weithredu trafnidiaeth gyhoeddus yn yr amgylchiadau sydd ohoni.”

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun fflecsi ar gael yma.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon